Gwybodaeth i deuluoedd
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) yn cynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor diduedd ac am ddim ar ystod o faterion teuluol gan gynnwys:
- Gofal plant a chymorth gyda chostau gofal plant
- Gofal iechyd
- Addysg a hyfforddiant
- Gwasanaethau hamdden
- Cyllid
Gallwn eich galluogi chi i gysylltu ag arbenigwyr a fydd yn cynnig cymorth a chefnogaeth bwrpasol ac am ddim, yn briodol i’ch anghenion unigol, a’ch cyfeirio chi at wybodaeth ddefnyddiol a gwasanaethau Rhaglenni Llywodraeth Cymru.
Mathau o ddarpariaethau
Mae gofalwr plant yn cynnig amgylchedd dysgu a gofal proffesiynol i un neu fwy o blant o oedrannau gwahanol yn eu cartrefi eu hunain, ac yn cael tâl am wneud. Rhaid i ofalwyr plant fod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru os ydyn nhw’n gweithio am fwy na dwy awr mewn diwrnod.
Grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg yw Cylchoedd Meithrin sy’n cynnig sesiynau gofal dydd (yn y bore a’r prynhawn), fel arfer rhwng dwy a thair awr y diwrnod i blant rhwng tri a phump oed.
Mae meithrinfeydd dydd yn cynnig gofal dydd i blant hyd at pan fyddant yn bump oed. Maen nhw fel arfer ar agor rhwng dydd Llun a dydd Gwener trwy’r flwyddyn. Rhaid i feithrinfeydd dydd yng Nghymru fod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae grwpiau chwarae yn cynnig sesiynau gofal dydd sesiynol (yn y bore a’r prynhawn), fel arfer rhwng dwy a thair awr y dydd i blant rhwng tri a phump oed. Rhaid i grwpiau chwarae yng Nghymru sy’n gweithredu am fwy na dwy awr y dydd fod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae clybiau allan o ysgol yn cynnig brecwast a/neu ddarpariaeth ar ôl ysgol i blant y tu allan i oriau ysgol. Gall clybiau allan o ysgol gael eu rhedeg gan ysgolion neu ddarparwyr preifat a rhoi cyfle i blant chwarae a chymdeithasu.
Addysg gynnar
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, y cynnig addysg gynnar ran amser yw 10 awr yr wythnos, ac mae ar gael o’r tymor ar ôl pen-blwydd plentyn yn dair oed hyd at 31 Awst ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed pan fyddant yn dod yn gymwys am le llawn amser mewn meithrinfa.
Ble gellid cynnal addysg gynnar ran-amser?
Gellid cynnal addysg gynnar ran-amser mewn meithrinfa a gynhelir (ysgol) neu ddarpariaeth nas cynhelir a ariennir.
Rhestr manylion cyswllt ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr
Pryd i wneud cais am addysg gynnar ran amser mewn darpariaeth a gynhelir (ysgol)
Bydd ceisiadau am addysg gynnar ran-amser mewn darpariaeth a gynhelir yn cael eu llenwi ar-lein drwy dderbyniadau i ysgolion.
Ffurflen gais derbyniadau i ysgolion ar-lein.
Pryd i wneud cais am addysg gynnar ran amser mewn darpariaeth na chynhelir a ariennir
Bydd ceisiadau am addysg gynnar ran amser mewn darpariaeth na chynhelir a ariennir yn cael eu llenwi drwy’r darparwr gofal plant. Cysylltwch â’r darparwr yn uniongyrchol i gael gwybod am argaeledd a ffurflen gais.
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae plant yn dod yn gymwys am addysg gynnar llawn amser o fis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed mewn meithrinfa a gynhelir.
Bydd ceisiadau am le llawn amser mewn meithrinfa yn cael eu cyflwyno ar-lein drwy dderbyniadau i ysgolion.
Pryd i wneud cais am le dosbarth derbyn mewn darpariaeth a gynhelir (ysgol)
Bydd ceisiadau am le mewn dosbarth derbyn yn cael eu llenwi ar-lein mewn derbyniadau i ysgolion.
- Banana Moon Bracla
- Meithrinfa Bizzi Day
- Meithrinfa Ddydd Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
- Busy Bees
- Cylch Meithrin Cynwyd Sant
- Cylch Meithrin Sarn
- Cylch Meithrin Sger
- Banana Moon Coity
- Little Footsteps
- Little Stars
- Grŵp Chwarae North Cornelly
- Gofal Dydd Schoolhouse
- Standing to Grow
- Ysgol St Clare
- The Burrows
- Meithrinfa Ddydd y Plant
- Cylch Chwarae Pentref Cwm Garw
- Grŵp Chwarae Pentref Tondu
- Y Bont
Cynnig Gofal Plant i Gymru
Mae’r Ddarpariaeth Gofal Plant ar gyfer Cymru yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth ac addysg gynnar ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant tair i bedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, 39 wythnos yn ystod y tymor a hyd at naw wythnos o ddarpariaeth gwyliau.
Gofal Plant Di-dreth
Gall y Llywodraeth gynnig cymorth gyda chostau gofal plant i rieni. P’un ai a oes gennych blant ifanc neu bobl ifanc, gallech gael cymorth.
Dewis Cymru
Gallwch chwilio am wefan Dewis Cymru i gael manylion am wasanaethau, gan gynnwys gofal plant a gweithgareddau i blant:
Dechrau’n Deg
Mae Dechrau’n Deg yn cynnig cymorth a chefnogaeth am ddim i blant o dan bedair oed mewn ardaloedd penodol. Ei nod yw gwella eu cyfleoedd a rhoi ‘dechrau teg’ iddynt pan fyddan nhw’n mynd i’r ysgol. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Gwasanaethau Cymorth Cynnar Pen-y-bont ar Ogwr
Gwasanaeth gwirfoddol yw’r Tîm Cymorth Cynnar, a’i nod yw helpu i ddarparu’r gefnogaeth gywir i chi a’ch teulu i gynorthwyo newid positif. Rydym yn rhoi’r teulu wrth wraidd y gefnogaeth o’r cychwyn cyntaf o unrhyw ymyrraeth gyda’r gwasanaeth.