Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) yn darparu cyngor a gwybodaeth ddiduedd ynglŷn ag amrywiaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc (o enedigaeth hyd at 25 mlwydd oed), rhieni/teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, am ddim.
Gallwn ddarparu gwybodaeth, cymorth a chyngor ar y canlynol:
- Darpariaethau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
- Cyllid Gofal Plant
- Gweithgareddau Plant a Phobl Ifanc
- Gwybodaeth a Chyfeirio Gyrfaoedd ym maes Gofal Plant
- Cyfleoedd Hyfforddiant Gofal
- Sefydliadau Cefnogi Teuluoedd
- Cymorth Ariannol i Deuluoedd
- Cyfeirio at sefydliadau preifat, Statudol a Gwirfoddol Cenedlaethol sy’n cefnogi Plant a Phobl Ifanc.
Gwybodaeth i Deuluoedd
Gwybodaeth ar ofal plant, gweithgareddau a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Gwybodaeth am Ddarparwyr
Gwybodaeth am ddarparwyr gofal plant presennol a’r rhai sy’n dymuno dod yn ddarparwyr gofal plant.
Digwyddiadau ar y gorwel
Digwyddiadau a gweithgareddau ar y gorwel yn y fwrdeistref sirol:
Parth Actif i Deuluoedd - Llwybrau i Deuluoedd
Gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch â’ch teulu ar antur fechan ac archwilio llawer o’r mannau gwyrdd sydd gennym ni yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae pob un o’r llwybrau yma wedi’u dewis a’u cynllunio’n ofalus gan feddwl am deuluoedd, sy’n golygu eu bod nhw’n gwbl gynhwysol ac yn addas i bawb, o hen dadau a mamau cu i blant bach neu fabanod mewn pramiau. Does dim byd i’ch stopio chi rhag bod yn archwiliwr mentrus
Teulu Actif
Dydd Sadwrn, 27 Ebrill – 25 Mai 2024, 9am – 9.45am
Ysgol Bryn Castell
Dewch i ddatblygu sgiliau sylfaenol eich plentyn drwy chwaraeon. Cyfle gwych i’r teulu oll gymryd rhan.
Addas i blant 18 – 36 mis.
Cost: £3.50 yr un
Mini pêl-droed
Dydd Llun, 29 Ebrill – 20 Mai 2024, 4.45pm – 5.30pm
YGG Cynwyd Sant
Cyfle i blant ddatblygu sgiliau symud sylfaenol ynghyd â sgiliau pêl-droed.
Addas i rai oed cyn cyfnod meithrin, meithrin a dosbarthiadau derbyn.
Cost: £10.50 am dair sesiwn
Cyswllt
Dogfennau
- Gweithgareddau am fwyd, hwyl a chwarae bywiog i blant bach (PDF 9099Kb)
- Ffurflen asesu digonolrwydd gofal plant (DOCX 1343Kb)
- Pam Dewis Addysg Gymraeg (PDF 6768Kb)
- Canllaw i rieni a gofalwyr (PDF 2192Kb)