Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) yn darparu cyngor a gwybodaeth ddiduedd ynglŷn ag amrywiaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc (o enedigaeth hyd at 25 mlwydd oed), rhieni/teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, am ddim.

Gallwn ddarparu gwybodaeth, cymorth a chyngor ar y canlynol:

  • Darpariaethau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
  • Cyllid Gofal Plant
  • Gweithgareddau Plant a Phobl Ifanc
  • Gwybodaeth a Chyfeirio Gyrfaoedd ym maes Gofal Plant
  • Cyfleoedd Hyfforddiant Gofal
  • Sefydliadau Cefnogi Teuluoedd
  • Cymorth Ariannol i Deuluoedd
  • Cyfeirio at sefydliadau preifat, Statudol a Gwirfoddol Cenedlaethol sy’n cefnogi Plant a Phobl Ifanc.

Gwybodaeth i Deuluoedd

Gwybodaeth ar ofal plant, gweithgareddau a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Gwybodaeth am Ddarparwyr

Gwybodaeth am ddarparwyr gofal plant presennol a’r rhai sy’n dymuno dod yn ddarparwyr gofal plant.

Gwybodaeth Ôl-16

Gwybodaeth am gyfleoedd i bobl ifanc wrth iddynt ddatblygu drwy’r ysgol a thu hwnt.

Digwyddiadau ar y gorwel

Digwyddiadau a gweithgareddau ar y gorwel yn y fwrdeistref sirol:

Dewch i ymuno â’r rhaglen 4 wythnos ‘Toddle Waddle’ ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr!

Yn arbennig i blant rhwng 18 mis - 3 oed a’u rhieni/gwarcheidwaid, mae’r rhaglen yn cynnwys gweithgareddau corfforol hwyliog i’r rheiny sy’n cymryd eu camau cyntaf, ac i’w helpu i baratoi ar gyfer Ras ‘Toddler Dash’ Porthcawl ddydd Sul 7 Gorffennaf.

  • Pwll Nofio a Chanolfan Ffitrwydd Ynysawdre: Bob dydd Iau, yn dechrau 6 Mehefin 2024, 12.30pm - 1.30pm
  • Canolfan Fywyd Cwm Ogwr: Bob dydd Gwener, yn dechrau 7 Mehefin 2024, 10.30am -11.30am

Mae prinder lleoedd, os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â: Samantha.tallis@bridgend.gov.uk

Graffig: Llwybrau i deuluoedd

Parth Actif i Deuluoedd  - Llwybrau i Deuluoedd

Gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch â’ch teulu ar antur fechan ac archwilio llawer o’r mannau gwyrdd sydd gennym ni yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae pob un o’r llwybrau yma wedi’u dewis a’u cynllunio’n ofalus gan feddwl am deuluoedd, sy’n golygu eu bod nhw’n gwbl gynhwysol ac yn addas i bawb, o hen dadau a mamau cu i blant bach neu fabanod mewn pramiau. Does dim byd i’ch stopio chi rhag bod yn archwiliwr mentrus

Cyswllt

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Ffôn: 01656 642649

Chwilio A i Y