Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Strydoedd Chwarae

Rydyn ni'n caru strydoedd chwarae! P’un a ydych chi’n cau eich stryd i draffig fel digwyddiad untro, neu’n ei gwneud yn rhywbeth rheolaidd, maen nhw’n ffordd braf o greu ychydig oriau pan fydd plant ac oedolion yn gallu chwarae a chymdeithasu o flaen eu fflatiau a’u tai heb orfod poeni am y traffig.

Mae manteision strydoedd chwarae wedi’u dogfennu’n dda ac mae iechyd, hapusrwydd ac ymdeimlad o berthyn wrth wraidd eu heffeithiau cadarnhaol ar blant a chymunedau.

Yn ffodus, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i gwneud hi’n hawdd iawn trefnu eich stryd chwarae eich hun ac mae cyfoeth o wybodaeth ar wefannau Chwarae Cymru a Playing Out.

Mae hyn yn cynnwys gweminarau ac erthyglau am y manteision i blant, templedi ar gyfer llythyrau, gwahoddiadau, asesiadau risg a llawer mwy.

Cam wrth Gam

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am Stryd Chwarae, mae ychydig o gamau i'w dilyn:

Cam 1 - Siaradwch â'ch cymdogion!

Rhowch wybod i drigolion eich stryd yr hoffech chi drefnu stryd chwarae. Y peth hawsaf yw rhoi llythyr drwy ddrws pawb gyda manylion cyswllt fel y gall pobl â phryderon siarad â chi a gobeithio cael ateb i’w cwestiynau.

Gallech hefyd drefnu cyfarfod stryd i drafod eich syniad gyda'ch cymdogion.

Caniatewch ddigon o amser i ddod â phobl i gefnogi eich syniad a pheidiwch ag anghofio gofyn am ganiatâd gan fusnesau neu sefydliadau eraill a allai gael eu heffeithio gan y cau.

Unwaith eto, mae awgrymiadau ac arweiniad gwych ar gael gan Chwarae Cymru a Playing Out.

Cam 2: Gwneud cais i gau stryd

Os oes gennych gefnogaeth gan eich cymdogion, gwnewch gais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am gau Stryd Chwarae er mwyn cau'r stryd. 

Mae angen i chi ganiatáu 10 diwrnod gwaith iddynt brosesu'r cais am ddigwyddiad untro a 28 diwrnod ar gyfer cais cylchol.

Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y byddant yn gofyn amdano:

  • cynllun/map yn dangos ble rydych am osod rhwystrau
  • asesiad risg
  • rhestr o'r trigolion hynny y cysylltwyd â hwy sy'n gefnogol neu'n anghefnogol i'r cau arfaethedig.

Mae angen i'ch stryd chwarae fod yn ddiogel, dyma ddwy wefan sy'n llawn awgrymiadau gwych, ffurflenni templed, canllawiau: Chwarae Cymru: Agor Strydoedd ar gyfer Chwarae a Chwarae Allan a Playing Out.

I wneud cais, cwblhewch ffurflen gais a'i dychwelyd i: streetparty@bridgend.gov.uk

Cam 3: Arddangos hysbysiadau cau 

Unwaith y bydd eich cais Stryd Chwarae wedi’i gymeradwyo, byddwch yn derbyn hysbysiadau e-bost i’w hargraffu, eu lamineiddio a’u harddangos ar bob pen i’r stryd i ddangos bod gennych ganiatâd cyfreithiol i gau’r ffordd.

Mae angen arddangos y rhain am o leiaf 48 awr ymlaen llaw.

Cam 4: Mwynhewch eich Stryd Chwarae

Unwaith y bydd eich Stryd Chwarae wedi’i gymeradwyo a rhybudd wedi’i roi, gallwch gau’r stryd, chwarae, sgwrsio â chymdogion a chael hwyl!

Os hoffech chi sgwrsio mwy am Strydoedd Cyfeillgar i Chwarae, cysylltwch â kelly.wake@bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y