Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad

Datblygwyd ein Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu i amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd fel Cyngor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am ein gwasanaethau.

Gyda dewis eang o sianeli ar gael i ni, rydym am sicrhau ein bod yn cynnig y cyfle gorau i wrando ar, ac ymateb i farn pobl ac ymgysylltu â phob aelod o'n cymuned mewn perthynas â’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ar gyfer pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Trwy weithio gyda dinasyddion a'u cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau a thrwy fynd i'r afael â'u pryderon trwy ymgynghori a'u cynnwys yn gynnar yn y broses, rydym yn gwybod y byddwn mewn sefyllfa well o lawer i wneud penderfyniadau allweddol am newidiadau a all efeithio arnynt.

Rydym eisiau datblygu perthnasoedd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth yn ein cymunedau lleol a gwella ein hygyrchedd a'n hatebolrwydd i bobl leol.

Chwilio A i Y