Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trwydded safle

Cais am, newid neu adnewyddu trwydded safle

Gall ymgeiswyr un ai ddefnyddio’r ddolen uchod, neu bydd angen iddynt:

  1. Gyflwyno ffurflen gais trwydded safle, sy’n cynnwys cwblhau atodlen weithredu. Mae atodlen weithredu yn ddisgrifiad cryno o’r modd y bydd y safle yn gweithredu yn unol â’r amcanion trwyddedu.
  2. Cyflwyno cynllun safle.
  3. Talwch y ffi a nodwyd gan y Swyddfa Gartref.
  4. Darparwch ffurflen gydsynio gan y GSD (Goruchwylydd Safleoedd Dynodedig), os yw’r safle am ddarparu alcohol.
  5. Hysbysebwch y cais. Cysylltwch â ni er mwyn cael mwy o wybodaeth am hynny.

Adolygwch wybodaeth fanwl y llywodraeth ar drwyddedau safle, a’n gwybodaeth bellach sydd islaw’r adran yma. Hefyd cyn gwneud cais, darllenwch ein Datganiad Polisi Trwyddedu, a’n llyfrynnau gwybodaeth. Gallwch weld cyngor y llywodraeth am bopeth sy’n ymwneud a thrwyddedu alcohol yma.

Gwnewch amrywiadau bychain i drwydded neu dystysgrif

Mae modd gwneud amrywiadau bach i drwyddedau safle a thystysgrifau safle clwb. Dylai deiliaid trwydded gyfeirio at y Canllaw DCMS Statudol ar y math ar amrywiadau bach ar geisiadau sydd yn bosib.

Amrywio’r Goruchwylydd Safleoedd Dynodedig

Proses ymgeisio i amrywio’r GSD 

I wneud cais rhaid cyflwyno:

  • y drwydded safle, neu, os nad yn ymarferol, datganiad yn egluro eich methiant i’w gyflwyno
  • ffurflen gais berthnasol
  • y ffi berthnasol, nad oes modd ei ad-dalu
  • ffurflen ganiatâd gan y GDS arfaethedig i ddangos eu bod yn rhoi caniatâd i ymgymryd â’r rôl yma.

Dim ond un GDS fydd yn berthnasol i bob trwydded safle.

Trosglwyddo trwydded safle

Gallwch drosglwyddo trwydded safle i berson/cwmni arall. Gwneir hyn fel rheol pan fo’r busnes wedi ei werthu o un person/cwmni i un arall.

Proses ymgeisio i gael trosglwyddo trwydded safle

I wneud cais bydd angen i chi gyflwyno:

  • ffurflen gais berthnasol
  • Y drwydded safle neu ran briodol y drwydded, neu, os nad yw hynny’n ymarferol, eglurhad am fethu â chyflwyno’r drwydded neu ran ohoni.
  • Y ffi angenrheidiol, sydd yn ffi cais na ellir ei ad-dalu
  • Ffurflen gydsyniad wedi ei llofnodi gan ddeiliad presennol y drwydded, neu ddatganiad yn egluro pam nad yw wedi ei amgáu.
  • prawf o hawl i fyw a gweithio

Gweler y canllawiau gwneud cais am fwy o wybodaeth.

Dileu amodau alcohol gorfodol

Gall safleoedd cymunedol wneud cais i ddileu’r amod alcohol gorfodol ar gyfer goruchwylwyr safle dynodedig enwebedig. Mae’r newid hefyd yn dileu’r angen i werthiant alcohol gael ei awdurdodi gan ddeiliad trwydded bersonol. Gweler gwybodaeth bellach, a ffurflen gais yma.

Yng Nghymru a Lloegr, mae ‘Trwydded Safle’ yn galluogi safle i weini alcohol, cynnig adloniant wedi ei reoleiddio a lluniaeth hwyr yn y nos.

Gallwch wneud cais am drwydded safle os ydych:

  • yn rhedeg busnes ar y safle
  • yn glwb cydnabyddedig
  • yn elusen
  • yn gorff gwasanaeth iechyd
  • yn berson a gofrestrwyd dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 parthed ysbyty annibynnol.
  • yn brif swyddog heddlu llu yng Nghymru a Lloegr
  • yn unrhyw un sy’n gweithredu dyletswyddau cyfreithiol neu swyddogaethau dan ragorfraint Ei Mawrhydi
  • o sefydliad addysgol
  • yn unrhyw berson arall a ganiateir

Ni ddylai ymgeiswyr fod o dan 18 oed.

Anfonwch geisiadau at yr awdurdod lleol sydd yn lleol i’r safle.

Rhaid i geisiadau fod ar eu ffurf benodol, a rhaid cynnwys taliad. Dylent gynnwys:

  • atodlen weithredu
  • cynllun safle
  • ffurflen gydsyniad gan oruchwyliwr y safle, ar gyfer ceisiadau lle bydd gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy

Bydd atodlen weithredu yn manylu ar:

  • gweithgareddau trwyddedadwy.
  • adeg y gweithgaredd
  • unrhyw amseroedd eraill pan fydd y safle ar agor i’r cyhoedd
  • y cyfnod y mae angen y drwydded ar ei gyfer, gydag ymgeiswyr sydd am drwydded gyfyngedig
  • gwybodaeth am oruchwyliwr y safle
  • os yw alcohol sydd ar werth i’w yfed ar neu oddi ar y safle, neu’r ddau
  • y camau gaiff eu cynnig i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
  • unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdano

Mae’n bosib y bydd yn rhaid i ymgeiswyr hysbysebu eu cais. Hefyd mae’n bosib y bydd yn rhaid iddynt hysbysu eraill neu gyrff cyfrifol fel yr awdurdod lleol, prif swyddog yr heddlu, awdurdod tân ac achub.

Mae’r awdurdod trwyddedu yn gyfrifol am roi trwyddedau, a all fod yn amodol. Rhaid cynnal gwrandawiad os caiff unrhyw sylwadau eu gwneud am y cais. Os cynhelir gwrandawiad, gall y drwydded gael:

  • ei chaniatáu
  • ei chaniatáu yn amodol
  • ei chaniatáu gyda gweithgareddau trwyddedadwy wedi eu heithrio
  • ei gwrthod

Os na wneir sylwadau, gellir caniatáu’r drwydded dan Gynllun Dirprwyaeth y cyngor. Fodd bynnag os gwneir sylwadau, bydd yr awdurdod trwyddedu yn cynnal gwrandawiad. Os na all ymgeiswyr a gwrthwynebwyr gytuno, bydd aelodau o Is-Bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor yn adolygu’r cais.

Bydd yr awdurdod trwyddedu yn hysbysu ei benderfyniad ar:

  • yr ymgeisydd
  • unrhyw un a wnaeth sylwadau perthnasol
  • pennaeth yr heddlu

Hefyd gellir gwneud ceisiadau i amrywio neu drosglwyddo trwydded. Os gwneir sylwadau neu os na fydd amodau yn ymwneud a throsglwyddo yn cael eu bodloni, efallai y cynhelir gwrandawiad.

Wedi marw, analluogrwydd neu ansolfedd deiliad trwydded, gellir gwneud cais am hysbysiad awdurdod dros dro. Mae hefyd modd i adolygu ceisiadau.

Mae er budd y cyhoedd fod awdurdodau yn prosesu ceisiadau cyn eu caniatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod perthnasol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r awdurdod. Gallwch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch gais drwy’r UK Welcomes Service, neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Os gwrthodir cais, gall ymgeiswyr apelio. Gwneir apêl i lys ynadon o fewn 21 diwrnod o hysbysiad o benderfyniad.

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â ni ar y manylion isod.

E: licensing@bridgend.gov.uk
Ff: 01656 643643

Adran Drwyddedu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Gallwch wneud sylwadau os yw’r prif swyddog heddlu yn gwneud cais, fel y nodwyd o dan ‘Iawndal Arall’, a bod yr awdurdod trwyddedu yn cymryd camau dros dro. Rhaid cynnal gwrandawiad o fewn 48 awr i dderbyn eich sylwadau.

Gall deiliad trwydded apelio yn erbyn:

  • amodau ynghlwm â thrwydded
  • penderfyniad i wrthod amrywiad cais
  • penderfyniad i wrthod trosglwyddo cais
  • penderfyniad i eithrio gweithgaredd neu berson fel goruchwyliwr safle

Gwnewch apêl i lys ynadon o fewn 21 diwrnod i hysbysiad o benderfyniad.

Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu’r drwydded safle. Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cynnal gwrandawiad.

Gwneir apêl i lys ynadon o fewn 21 diwrnod i hysbysiad o benderfyniad.

Gall prif swyddog yr heddlu lleol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu trwydded os:

  • yw’r safle wedi ei drwyddedu i werthu alcohol
  • a bod uwch swyddog wedi tystio ei fod o’r farn bod y safle yn gysylltiedig ag un ai droseddu difrifol neu anrhefn neu’r ddau

Cynhelir gwrandawiad a gall deiliad y drwydded ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb gyflwyno sylwadau.

Gall prif swyddog yr heddlu hysbysu’r awdurdod trwyddedu os byddai trosglwyddo trwydded i eraill, drwy gyfrwng cais amrywio, yn tanseilio atal troseddu. Rhaid rhoi hysbysiad o’r fath o fewn 14 diwrnod o hysbysu’r cais.

Gall parti â diddordeb neu gorff cyfrifol wneud sylwadau ar y cais am drwydded neu ofyn i’r corff trwyddedu i adolygu’r drwydded.

Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu’r drwydded safle. Cynhelir gwrandawiad gan yr awdurdod trwyddedu.

Gall parti â diddordeb neu awdurdod perthnasol a wnaeth sylwadau perthnasol apelio yn erbyn:

  • rhoi’r drwydded
  • amodau
  • amrywiadau
  • gweithgareddau trwyddedadwy.
  • penderfyniadau ar oruchwylwyr safleoedd

Gwneir apêl i lys ynadon o fewn 21 diwrnod i hysbysiad o benderfyniad.

Chwilio A i Y