Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Grantiau Cefnogi Busnes

Mae ein cynlluniau grant yn cefnogi busnesau newydd a chwmnîau sydd eisoes yn masnachu neu’n buddsoddi yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae gan bob cynllun grant feini prawf cymhwysedd penodol. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at y canllawiau cynllun grant unigol cyn gwneud cais.

Cronfa Grant Datblygu Busnes

Bydd y Grant Datblygu Busnes yn cefnogi busnesau bach a chanolig (BBaCh) ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i arallgyfeirio, datgarboneiddio a thyfu, a fydd yn cyfrannu at greu economi leol fywiog a chryf.

Ardaloedd a gynhwysir:
Bwrdeistref sirol gyfan

Cyfradd y Grant:
Yn darparu hyd at 50% o gostau prosiectau cyfalaf cymwys. Y grant lleiaf ar gael yw £5,000 a'r grant mwyaf ar gael yw £25,000 (ac eithrio TAW). Felly, uchafswm cost y prosiect yw £50,000 (ac eithrio TAW).

Cronfa Grant Dichonoldeb Busnes

Mae astudiaeth ddichonoldeb yn archwiliad rhagarweiniol o brosiect neu ymgymeriad arfaethedig i bennu ei rinweddau a'i hyfywedd. Nod astudiaeth ddichonoldeb yw darparu asesiad annibynnol sy'n archwilio pob agwedd ar brosiect arfaethedig, gan gynnwys ystyriaethau technegol, economaidd, ariannol, cyfreithiol ac amgylcheddol.

  • Cyn prynu darn o beiriannau, gallai'r astudiaeth benderfynu a yw'r farchnad ar gyfer cynhyrchu mwy neu o bethau neu greu cynnyrch newydd yn hyfyw yn ariannol.
  • Archwilio'r syniad o ddefnyddio lle/gofod mewn manwerthu, lletygarwch i gyflwyno gwasanaeth / cynnyrch newydd e.e. sba gwesty newydd
  • Dadansoddiad cost a budd i gyflwyno caffael Gwyrdd

Ardaloedd a gynhwysir:
Bwrdeistref sirol gyfan

Cyfradd y Grant:
Darparu 100% o gostau prosiectau refeniw cymwys. Y grant lleiaf ar gael yw £5,000 a'r grant mwyaf ar gael yw £25,000 (ac eithrio TAW). Felly, uchafswm cost y prosiect yw £25,000 (ac eithrio TAW).

Y Gronfa Gymorth i Ddigwyddiadau Twristiaeth

Nid yw'n bosib cyflwyno Mynegiannau o Ddiddordeb newydd ar gyfer y Gronfa Gymorth Digwyddiadau Twristiaeth ar hyn o bryd. Anfonwch neges e-bost i events@bridgend.gov.uk i gael gwybod pan fydd yn ailagor.

Allbynnau a chanlyniadau

Mae allbynnau a chanlyniadau penodol y mae angen eu cyflawni gan brosiectau Cronfa Ffyniant a Rennir y DU a bydd yr allbynnau a’r canlyniadau hyn yn cael eu monitro a’u hadrodd.

Mae’r Grant Datblygu Busnes a’r Grant Dichonoldeb Busnes yn cael eu hariannu gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Grant Cychwyn Busnes 

  • Mae’r Gronfa Cychwyn Busnes bellach wedi cau.

Cronfa Dechrau Busnes Nodiadau Cyfarwyddyd I Ymgeiswyr

Grantiau Adfywio Strategol

Mae ein grantiau presennol yn cefnogi gwelliannau i eiddo masnachol a fydd yn adfywio ac yn gwella canol trefi (Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg) a chanolfannau’r ardal a’r canolfannau gwasanaethau lleol yng nghymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr.

Chwilio A i Y