Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.bridgend.gov.uk/cy/

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau'r cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo'r dudalen hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Nid yw rhai dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwr sgrîn.
  • Nid oes capsiynau ar ffrydiau fideo byw.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n meddwl nad ydyn ni'n cwrdd â'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

Os ydych angen y wybodaeth ar y wefan hon mewn gwahanol fformat megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 15 diwrnod.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, ffoniwch ni neu anfonwch e-bost i gael cyfarwyddiadau:

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan wedi cael ei phrofi yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) [2.2].

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 safon AA. 

Cynnwys anhygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rheswm/rhesymau canlynol:

Cynnwys ddim o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Anghydffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd

  • Nid yw’r ffocws bysellfwrdd i’w weld ar rai ffurflenni ar-lein pan mae’n tabio rhwng dolenni. Mae hyn yn methu WCAG 2.4.7 Focus Visible. Rydym yn gweithio gyda’n darparwr trydydd parti i drwsio unrhyw broblemau erbyn Awst 2025. Pan fyddwn yn cyhoeddi ffurflenni ar-lein newydd, byddwn yn sicrhau eu bod yn bodloni safonau hygyrchedd.

  • Nid oes gan rai botymau gyferbyniad lliw digonol ar ein ffurflenni ar-lein. Mae hyn yn methu WCAG 1.4.3 Contrast (minimum). Rydym yn gweithio gyda’n darparwr trydydd parti i drwsio unrhyw broblemau erbyn Awst 2025. Pan fyddwn yn cyhoeddi ffurflenni ar-lein newydd, byddwn yn sicrhau eu bod yn bodloni safonau hygyrchedd.

  • Mae gan rai elfennau rhiant rôl nad ydynt yn rôl=”rhestr” ar ein ffurflenni ar-lein. Mae hyn yn methu WCAG 1.3.1 Info and Relationships. Rydym yn gweithio gyda’n darparwr trydydd parti i drwsio unrhyw broblemau erbyn Awst 2025. Pan fyddwn yn cyhoeddi ffurflenni ar-lein newydd, byddwn yn sicrhau eu bod yn bodloni safonau hygyrchedd.

  • Nid oes gan rai ffurflenni ar-lein yr ARIA rôl rhiant angenrheidiol yn bresennol. Mae hyn yn methu WCAG 1.3.1 Info and Relationships. Rydym yn gweithio gyda’n darparwr trydydd parti i sortio unrhyw broblemau erbyn Awst 2025. Pan fyddwn yn cyhoeddi ffurflenni ar-lein newydd, byddwn yn sicrhau eu bod yn bodloni safonau hygyrchedd.

  • Nid yw rhai ARIA rôl rhiant yn cynnwys rôl plentyn dilys mewn ffurflenni ar-lein. Mae hyn yn methu WCAG 1.3.1 Info and Relationships. Rydym yn gweithio gyda’n darparwr trydydd parti i sortio unrhyw broblemau erbyn Awst 2025. Pan fyddwn yn cyhoeddi ffurflenni ar-lein newydd, byddwn yn sicrhau eu bod yn bodloni safonau hygyrchedd.

  • Nid oes gan y pecyn adroddiad blynyddol cyhoeddus o fis Mai 2024 benawdau wedi’u marcio’n gywir ar hyn o bryd.  Nid yw hyn yn bodloni gofynion WCAG 1.3.1 Info and Relationships: Tables. Rydym yn gweithio gyda’n darparwr trydydd parti ac yn anelu at ddatrys unrhyw broblemau erbyn mis Awst 2025.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn 13 Medi 2024.

Adolygwyd y datganiad hwn ddiwethaf 13 Medi 2024.

Caiff y wefan ei phrofi'n rheolaidd drwy ddefnyddio FunnelBack a Silktide.

Chwilio A i Y