Cynllun ‘Dim Tocyn, Dim Teithio’
Mae gweithdrefn ‘dim pas, dim teithio’ yn parhau ar waith ar gyfer disgyblion ym mis Medi 2024.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’ch plentyn ddangos ei bas bws bob tro y bydd ef neu hi yn defnyddio’r bws ysgol. Os na fydd pas dilys yn cael ei ddangos, ni fydd y plentyn yn cael teithio ar y bws. Mewn sefyllfa o’r fath, y rhieni fydd yn gyfrifol am eu plentyn a chludo’r plentyn i’r ysgol.
Fodd bynnag, dros bythefnos cyntaf y flwyddyn ysgol newydd, bydd yr orfodaeth ‘dim pas, dim teithio’ yn cael ei gohirio er mwyn galluogi i ddisgyblion gasglu eu pasys bws o dderbynfa’r ysgol.
Os caiff pas plentyn ei golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi, bydd angen i chi gysylltu â derbynfa’r ysgol ac fe gewch gyngor ar beth i’w wneud nesaf. Codir ffi o £10 am bas bws arall, felly mae’n bwysig i’ch plentyn gadw’r pas yn ddiogel.