Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwestiynau Cyffredin ynghylch cludiant ysgolion

Gallwch gael atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml ynghylch cludiant i'r ysgol, gan gynnwys: 

  • Cynllun dim pàs, dim teithio
  • Cludiant ysgol
  • Cludiant i'r ysgol ar gyfer rhai ag anghenion addysgol arbennig
  • Cludiant rhad ac am ddim o'r cartref i'r coleg
  • Ymddygiad y disgybl

Nodwch os gwelwch yn dda: Dim ond y disgyblion hynny sy'n gymwys ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim yn ystod blwyddyn ysgol 2024-2025 sydd wedi cael gwybod yn ysgrifenedig eu bod yn gymwys o fis Medi 2024 ddylai geisio teithio.

Gwybodaeth am amseroedd casglu a lleoliadau cludiant ysgolion.

Cynllun dim tocyn, dim teithio

Mae gweithdrefn 'dim pàs, dim teithio' yn parhau yn ei le ar gyfer yr holl ddisgyblion o fis Medi 2024

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’ch plentyn ddangos ei bas bws bob tro y bydd ef neu hi yn defnyddio’r bws ysgol. Os na fydd pas dilys yn cael ei ddangos, ni fydd y plentyn yn cael teithio ar y bws. Mewn sefyllfa o’r fath, y rhieni fydd yn gyfrifol am eu plentyn a chludo’r plentyn i’r ysgol.

Fodd bynnag, dros bythefnos cyntaf y flwyddyn ysgol newydd, bydd yr orfodaeth ‘dim pas, dim teithio’ yn cael ei gohirio er mwyn galluogi i ddisgyblion gasglu eu pasys bws o dderbynfa’r ysgol.

Os yw pàs eich plentyn yn mynd ar goll, yn cael ei ddwyn neu ei ddifrodi, byddwch angen cysylltu gyda derbynfa'r ysgol a fydd yn eich cynghori ymhellach ynghylch beth i'w wneud. Codir tâl o £10 am bob pàs bws cyfnewid, felly mae'n bwysig iawn bod eich plentyn yn cadw eu pàs bws yn saff ac yn ddiogel.

Dim ond disgyblion sy'n gymwys i deithio all wneud hynny. Bydd unrhyw ddisgybl sy'n ceisio dod ymlaen ar gerbyd cludo i'r ysgol, oni bai eu bod yn gymwys i wneud hynny, yn cael ei wrthod.

Os digwydd i'r pàs gael ei golli, ei ddwyn, neu ei ddifrodi, bydd angen i chi gysylltu gyda derbynfa'r ysgol, fydd yn rhoi cyngor pellach i chi ynghylch beth i'w wneud. Mae'n bosib y codir tâl am bàs bws newydd, felly mae'n bwysig iawn bod y pàs yn cael ei gadw'n saff ac yn ddiogel.

O fis Medi 2024 ymlaen codir tâl o £10 am bob pàs bws cyfnewid.  Mae'n bwysig iawn, felly, bod bob pàs bws yn cael ei gadw’n saff ac yn ddiogel.

Bydd staff yr awdurdod lleol yn gwneud gwiriadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

Cwestiynau Cyffredin ynghylch cludiant ysgolion (Medi 2024)

Dim ond disgyblion sy'n gynnwys sy'n gallu teithio ar gerbydau cludiant i'r ysgol.

Bydd yr holl ddisgyblion sy'n gymwys yn derbyn llythyr gan Dîm Cludiant Ysgol yr Awdurdod Lleol cyn i'r flwyddyn ysgol newydd ddechrau ym mis Medi 2024.

Darperir cerbyd gwahanol i rai plant, er enghraifft bws mini neu dacsi, yn ddibynnol ar benderfyniad yr awdurdod lleol neu i gwrdd ag anghenion unigol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, os oes lle ar gael, gall brodyr a chwiorydd neu ddisgyblion o'r un cartref eistedd gyda'i gilydd.  

Nid oes unrhyw ofyn statudol i ddarparu hebryngwyr.  Fodd bynnag, bydd yr awdurdod lleol yn asesu anghenion y disgyblion a phenderfynu ar briodoledd ac argaeledd hebryngwyr ym mhob achos.

Nid oes gofyn statudol i ddarparu hebryngwyr. Fodd bynnag, bydd yr awdurdod lleol yn asesu anghenion y disgyblion ac yn penderfynu ar briodoldeb ac argaeledd hebryngwyr ym mhob achos

Ni chaniateir mynediad i unrhyw ddisgybl nad yw'n cyflwyno eu pàs wrth fynd i mewn i gerbyd cludo i'r ysgol.  Cyfrifoldeb y rhieni/gofalwyr yw sicrhau bod pàs bws eu plentyn gyda hwy bob amser ac i drefnu trafnidiaeth amgen ymlaen i'r ysgol os yw eu plentyn wedi eu gwrthod i gael mynediad i gerbyd cludiant i'r ysgol gan y gyrrwr.

Ydy, mae'r awdurdod lleol yn gallu ystyried ceisiadau am gludiant dewisol. Mae ffurflen gais cludiant i'r ysgol ddiamod ar gael yn ôl y galw drwy gysylltu â pupilservices@bridgend.gov.uk

Nid yw'r awdurdod lleol bellach yn gallu cynnig 'llefydd talu' ar drafnidiaeth bws mawr oherwydd effaith Rheoliadau Mynediad Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR).  Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i allu cynnig llefydd talu ar gerbydau bychain gyda llai nag wyth sedd, megis tacsis a bysys mini, os oes lle.

Gwnewch yn siŵr os gwelwch yn dda bod eu pàs bws gan eich plentyn cyn iddynt adael gartref bob dydd. Mae'n hanfodol bod eich plentyn yn gwybod beth i'w wneud os ydynt wedi anghofio neu golli eu pàs a'u bod yn cael eu gwrthod i deithio.  Gall hyn fod yn dychwelyd gartref, gan eich ffonio chi fel y rhiant/gofalwr, neu fynd i gartref perthnasau.  Os oes disgybl yn cael ei wrthod rhag mynd ar fws ysgol oherwydd nad oes ganddynt bàs dilys, yna cyfrifoldeb y rhieni yw sicrhau eu bod yn cyrraedd yr ysgol.

Siaradwch os gwelwch yn dda gyda'ch plentyn ynghylch ymddygiad da wrth ddefnyddio trafnidiaeth i'r ysgol.  Mae'n bwysig iawn bod plant yn camu ar, neu ddod oddi ar, unrhyw drafnidiaeth i'r ysgol yn dawel ac mewn ffordd ddiogel a'u bod yn parhau i eistedd bob amser.  

Dylid dilyn unrhyw gyfarwyddyd gan yrrwr y bws neu hebryngwr (pan fydd yn cael ei ddarparu).  Ni fydd unrhyw ymddygiad gwael yn cael ei oddef a bydd unrhyw blentyn sy'n peryglu eu hunain neu unrhyw un arall yn colli eu hawl i dderbyn cludiant am ddim.

Mae disgyblion meithrin yn gallu manteisio ar y cerbydau penodedig sydd ar gael ac felly nid yw'n bosib i frodyr a chwiorydd hŷn oedran Derbyn ac uwch deithio ar gerbydau meithrin penodedig.

Yn anffodus, nid yw'r awdurdod lleol yn gallu gwneud unrhyw eithriadau oherwydd amgylchiadau domestig. 

Cwestiynau cyffredinol a ofynnir yn aml am Gludiant i'r Ysgol

Bydd rhieni/gofalwyr disgyblion cymwys yn derbyn llythyr pan fydd cludiant wedi’i drefnu gan yr awdurdod lleol. Bydd y llythyr hwn yn esbonio pa ddarparwr cludiant fydd yn cludo eich plentyn, yn ogystal â’i fanylion cyswllt a rhif y contract.

Nid oes proses ymgeisio a byddwn yn rhoi gwybod i chi mewn llythyr os yw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim.

Nac oes. Bydd y tocynnau bws yn cael eu hanfon i bob ysgol uwchradd a gellir eu casglu o dderbynfeydd yr ysgolion yn ystod wythnos gyntaf y tymor.

Fodd bynnag, ni ddylai eich plentyn geisio teithio ar fws ysgol oni bai fod ganddo hawl i wneud hynny. Gall unrhyw ddisgybl sy'n ceisio mynd ar gerbyd cludiant i'r ysgol wynebu camau disgyblu oni bai ei fod yn gymwys i wneud hynny.

Bydd y tocynnau bws yn cael eu hanfon i bob ysgol uwchradd a gellir eu casglu o dderbynfeydd yr ysgolion yn ystod wythnos gyntaf y tymor.

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r ysgol a gofyn iddynt hwy roi gwybod i Dîm Trafnidiaeth Ysgol yr awdurdod lleol. Os yw eich plentyn yn parhau i fod yn gymwys o dan y meini prawf cymhwystra presennol, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau hyn.  Mae'n bosib y bydd eich plentyn angen pàs bws newydd. 

Os ydych yn cael gwybod nad yw eich plentyn bellach yn gymwys ar gyfer cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol oherwydd eich newid cyfeiriad, yna mae'n rhaid iddynt ddychwelyd eu pàs bws i dderbynfa'r ysgol.

Dim ond trefniadau byw pendant fydd yn cael eu hystyried mewn perthynas â disgyblion preswyliaeth ddeuol, a bydd rhaid dangos tystiolaeth o breswyliaeth ddeuol.

Os bydd plentyn yn aros mewn mwy nag un cyfeiriad am gyfnod o amser, efallai mai ysgol wahanol fydd eu hysgol addas agosaf. Os felly, ni fydd gan eich plentyn hawl i gludiant am ddim pan mae’n aros yn y cyfeiriad arall.

Os mai’r ysgol mae eich plentyn yn mynd iddi yw’r ysgol addas agosaf at y ddau gyfeiriad, bydd cludiant ysgol am ddim yn cael ei ddarparu. Mae hyn yn amodol ar fodloni gofyniad pellter perthnasol y polisi teithiau dysgwyr.

Os ydych yn anfon eich plentyn i ysgol heb fod yr ysgol ddalgylch addas agosaf ato, ni ddarperir cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol.

Gallwch fynd i dudalennau llwybrau bysiau cludiant i’r ysgol. Ni chaiff amseroedd gollwng i'r ysgol eu cyhoeddi, ond gallwch ofyn am amcangyfrif o'r amseroedd ar gyfer llwybr eich plentyn gan y cwmni bysiau yn uniongyrchol.

Ar gyfer disgyblion nad oes ganddynt hawl i gludiant i’r ysgol am ddim, mae manylion llwybrau cyhoeddus ar gael ar wefan Traveline Cymru.

Na. Rhaid i'r disgyblion gerdded i'w man casglu penodol ar gyfer bysiau. Fodd bynnag, gall rhai cerbydau llai e.e. tacsis, drefnu i godi eich plentyn yn eich cyfeiriad cartref.

Cynghorir disgyblion i fod yn eu safle bws 10 munud cyn yr amser gadael sydd wedi'i drefnu. Os nad yw'r bws wedi cyrraedd ar ôl 20 munud, dylai'r disgyblion ddilyn y canllawiau ar gefn eu tocyn bws. Dylent ffonio'r rhif sydd wedi'i nodi ac aros am gyfarwyddiadau gan y tîm Cludiant i’r Ysgol.

Bydd y gwasanaeth cludiant i'r ysgol ond yn codi ac yn gollwng disgyblion yn eu safle bws dynodedig. Ni fydd gyrrwr y bws yn caniatáu nac yn awdurdodi unrhyw gyfeiriad neu fan gollwng arall.

Na. Mae gan bob llwybr ysgol rif contract unigol, a dim ond y disgyblion sydd wedi cael tocyn ar gyfer y llwybr hwnnw gaiff deithio. Bydd unrhyw blentyn sy’n ceisio mynd ar y bws anghywir yn cael ei wrthod.

Mae'n rhaid i rieni a gofalwyr plant ysgol gynradd sicrhau bod eu plentyn yn mynd ar y bws a dod oddi arno yn ddiogel. Rhaid i oedolyn cyfrifol fod ar gael o leiaf 10 munud cyn yr amser casglu y cytunwyd arno fel y nodir ar amserlen y bws ysgol.

Os na fydd oedolyn cyfrifol yn aros yn y safle dynodedig i gwrdd â phlentyn oedran cynradd, bydd y plentyn yn aros ar y bws tra bydd yn cwblhau ei daith. Yna bydd yn dychwelyd i arhosfan y plentyn. Os nad oes oedolyn cyfrifol yno o hyd, bydd y plentyn yn mynd i'r orsaf heddlu agosaf.

Os bydd y tocyn bws hwn yn cael ei golli, ei ladrata neu ei ddifrodi bydd angen i chi gysylltu â derbynfa'r ysgol, a fydd yn rhoi cyngor pellach i chi ar beth i'w wneud. Efallai y codir tâl am docyn bws newydd, felly mae'n bwysig iawn bod y tocyn yn cael ei gadw'n ddiogel.

Rhowch wybod i'r ysgol os gwelwch yn dda a gwneud cais am iddynt roi gwybod i'r Tîm Cludiant i'r Ysgol am gyngor pellach.

Dim ond ar gerbyd cludiant i'r ysgol lle mae sedd wedi'i neilltuo arno ddylai disgyblion geisio teithio arno.

Cludiant i ysgol anghenion addysgol arbennig

Rhoi gwybod i'r ysgol a gofyn iddi roi gwybod i’r tîm Cludiant i’r Ysgol.

Cysylltu â'r tîm Cludiant i’r Ysgol i wirio statws trefniadau cludiant eich plentyn: schooltransport@bridgend.gov.uk.

Rhaid i rieni a gofalwyr sicrhau bod cyfarpar yn cael ei gynnal a'i gadw'n briodol er mwyn sicrhau y gall eu plentyn deithio'n ddiogel. Dylai cadeiriau olwyn gael eu gosod gyda'r cynhaliwr pen priodol, ffrwynau a phwyntiau angori, teiars chwyddedig, breciau wedi'u haddasu a phecyn pŵer wedi'i wefru, lle bo hynny'n berthnasol.

Caniateir mynd â meddyginiaeth ar gludiant i’r ysgol. Sicrhewch fod y feddyginiaeth mewn cynhwysydd diogel ym mag ysgol eich plentyn, lle nad yw plant eraill yn gallu mynd ato. Rhaid rhoi gwybod i'r gyrrwr neu'r hebryngwr fod meddyginiaeth yn cael ei chludo.

Ni all y gyrrwr na’r hebryngwr weinyddu meddyginiaeth o dan unrhyw amgylchiadau. Mewn argyfwng, byddant yn stopio, ac yn ffonio 999 am gymorth.

Cludiant am ddim rhwng y cartref a'r coleg

Mae dysgwyr Coleg yn gymwys i dderbyn trafnidiaeth am ddim yn ddibynnol ar eu bod:

  • yn mynychu eu cwrs amser llawn cyntaf mewn coleg addysg bellach yn y flwyddyn academaidd pan maent yn 16,17 neu 18 ar 1 Medi;
  • yn byw dros dair milltir o'u coleg agosaf sy'n cynnig y cwrs, neu lle mae'r coleg yn barnu nad yw'r llwybr cerdded o'r cartref i'r coleg ar gael.

Am ragor o wybodaeth gweler y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol neu Goleg.

Mae cymhwyster ar gyfer pàs am ddim yn cael ei asesu yn ystod ymrestriad yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.  Am golegau oddi allan i'r sir, ebostiwch schooltransport@bridgend.gov.uk os gwelwch yn dda, gan nodi'r cyrsiau a'r coleg rydych yn dymuno ei mynychu, eich enw, manylion cyswllt a dyddiad geni.

Ymddygiad disgyblion

Mae'r awdurdod lleol yn arddel agwedd o beidio â goddef unrhyw fath o ymddygiad gwael ar gludiant o'r cartref i'r ysgol dynodedig gan yr awdurdod lleol.

Dylai rhieni/gofalwyr a disgyblion ymgyfarwyddo gyda'r Cod Ymddygiad Teithio. Mae'n annog teithio i'r ysgol yn ddiogel, ac yn nodi'r safon o ymddygiad sy'n ddisgwyliedig gan ddisgyblion.

Os nad yw'r disgyblion yn dilyn y cod, gall ysgolion, colegau a'r awdurdod lleol gymryd camau gweithredu yn eu herbyn er mwyn eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill. Mae'n bosib y gall hyn olygu diddymu eu hawl i gludiant i'r ysgol am gyfnod a hyd yn oed cael eu gwahardd o'r ysgol.

Os bydd disgybl yn cael ei wahardd oddi ar gludiant i'r ysgol, bydd rhieni neu ofalwyr y disgybl yn cael gwybod yn ysgrifenedig am ba hyd, yn ogystal â’r rheswm. Bydd angen i rieni a gofalwyr wneud trefniadau eraill ar gyfer y cyfnod fel bod y disgybl yn parhau i fynychu'r ysgol.

Gall difrod i gerbyd y cwmni gweithredu olygu bod y cwmni'n adennill cost y gwaith trwsio gan rieni neu ofalwyr y plentyn.

Cwyno neu wneud ymholiad

I gwyno am elfen o gludiant i'r ysgol, neu i ofyn am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni isod: 

Chwilio A i Y