Presenoldeb yn yr ysgol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o botensial yr holl ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion yn y fwrdeistref sirol.
Mae mynychu'r ysgol yn rhoi'r cyfle gorau i'r plant lwyddo.
Gall rhieni/gofalwyr gefnogi presenoldeb rheolaidd a phrydlon eu plant drwy:
- sicrhau bod eu plentyn yn cyrraedd yr ysgol ar amser
- sicrhau bod eu plentyn ond yn colli’r ysgol am resymau na ellir eu hosgoi neu y gellir eu cyfiawnhau, megis salwch neu ddiwrnodau o ddefod grefyddol
- rhoi gwybod i’r ysgol cyn gynted â phosibl am unrhyw absenoldeb a chadarnhau hyn yn ysgrifenedig pan fydd y plentyn yn dychwelyd i’r ysgol
- peidio â threfnu gwyliau teuluol yn ystod y tymor
- siarad â’r ysgol os ydynt yn poeni y gallai eu plentyn fod yn amharod i fynychu
Mae tynnu plant allan o wersi yn niweidio eu haddysg ac yn eu hatal rhag cyflawni hyd at eithaf eu gallu. Yn ogystal â methu â dal i fyny â gwersi a gollwyd neu weld eu graddau'n dioddef, gall colli ysgol roi pwysau ar gyfeillgarwch a rhoi'r argraff i blant ei bod yn iawn i golli gwersi - nid yw.
Rydym yn deall y bydd adegau pan na all plentyn fynd i’r ysgol, er enghraifft:
- os yw’r plentyn yn sâl
- i fynychu apwyntiadau meddygol
- ar gyfer arsylwi crefyddol
Ystyrir y rhain fel absenoldebau awdurdodedig. Peidiwch ag anghofio bod yn rhaid i riant neu warcheidwad unrhyw blentyn sydd i ffwrdd o'r ysgol gysylltu â'r ysgol a rhoi gwybod iddynt am y rhesymau dros absenoldeb.
Oeddech chi’n gwybod? - Bydd disgybl sy'n hwyr o 15 munud yn unig bob dydd am flwyddyn wedi methu pythefnos lawn o ysgol.
Colli ysgol, colli mas!
Mae mynychu’r ysgol yn brydlon, bob dydd, nid yn unig yn bwysig i addysgu plentyn, ond hefyd i les, i gyflawniad, ac i ddatblygiad cyffredinol.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda phlant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws y fwrdeistref sirol i amlygu pwysigrwydd presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol a manteision ysgol y tu hwnt i ddysgu.
Yn ein ffilm fer newydd, mae’r plant yn trafod y rhesymau pam fod mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn hanfodol ar gyfer eu hapusrwydd a’u lles, addysg bellach, a chyfleoedd gwaith.
Mae eich ysgol yno i helpu
Os ydych chi’n poeni am bresenoldeb ysgol eich plentyn, mae’n bwysig gofyn am gymorth a chyngor gan staff yr ysgol cyn gynted â phosibl. Mae staff yn ysgol eich plentyn yno i helpu a rhoi’r cymorth ac arweiniad angenrheidiol i chi a’ch plentyn.
Gellir canfod gwybodaeth a chymorth ychwanegol ar ein gwefan hefyd:
Trafnidiaeth i’r ysgol a’r coleg
Hyd yn oed os yw eich plentyn yn cael prydau bwyd ysgol am ddim fel rhan o fenter Prydau Bwyd Ysgol am Ddim Cyffredinol, mae’n bwysig serch hynny i wirio’r cymhwysedd i gael y Grant Hanfodion Ysgol a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol.
Y ddolen isod i sefydliadau allanol:
Oeddech chi'n gwybod y bydd colli dim ond 17 diwrnod o ysgol yn achosi cwymp mewn gradd ym mhob pwnc ar Lefel TGAU?
Gwasanaethau Cymorth Cynnar Pen-y-bont ar Ogwr
Mae plant, pobl ifanc a’u teuluoedd weithiau angen ychydig o help a chymorth i gael bywydau hapus, iach a llwyddiannus.
Mae’r Tîm Cymorth Cynnar yn wasanaeth gwirfoddol sydd â’r nod o helpu i ddarparu’r cymorth cywir i chi a’ch teulu i gynorthwyo newid cadarnhaol. Rydym yn rhoi’r teulu wrth wraidd y gefnogaeth o ddechrau i ddiwedd unrhyw ran â’r gwasanaeth.
Y gyfraith: yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Mae'n rhaid i blant o oedran ysgol sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol, yn ôl y gyfraith, fynychu'r ysgol yn rheolaidd. Mae presenoldeb rheolaidd yn bwysig, nid yn unig oherwydd dyna’r gyfraith, ond oherwydd mai dyma’r ffordd orau o sicrhau bod plant yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt.
Gall rhieni a gofalwyr gael dirwy hyd at £2,500 neu eu carcharu am fethu â sicrhau bod plentyn yn eu gofal yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i rieni a gwarcheidwaid plant rhwng 5 a 16 oed, sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol, sicrhau eu bod yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon. Dyddiad swyddogol olaf y flwyddyn ysgol, pan fydd plant yn gadael yr ysgol, yw dydd Gwener olaf mis Mehefin. Mae angen cyfradd presenoldeb cyffredinol o 95 y cant o leiaf - unrhyw beth llai a bydd y Gwasanaeth Lles Addysg yn ymchwilio i pam fod plentyn yn colli dosbarth.
Nid oes gan rieni a gwarcheidwaid yr hawl i gadw plant o'r ysgol ar gyfer e.e gwyliau teuluol, taith siopa neu hyd yn oed apwyntiad deintyddol - mae 175 o ddiwrnodau nad yw’n ddiwrnod ysgol mewn blwyddyn ar gyfer y math hwn o weithgareddau, a dim ond 190 lle mae’n ofynnol i blant fod yn y dosbarth.
Gellir gwneud ceisiadau i gadw plant o'r ysgol yn ystod y tymor i benaethiaid, ond dim ond mewn amgylchiadau eithriadol iawn y gellir eu cymeradwyo - mae unrhyw beth llai na phresenoldeb ysgol lawn yn mynd i effeithio ar gynnydd plentyn.
- Pryd gall plentyn fod i ffwrdd o'r ysgol? - Mae'r gyfraith yn datgan y dylai disgyblion fod i ffwrdd o'r ysgol dim ond os ydynt yn sâl neu'n cymryd rhan mewn defodau crefyddol cydnabyddedig. Mae’n rhaid i riant neu warcheidwad unrhyw blentyn sydd i ffwrdd o’r ysgol gysylltu â’r ysgol a rhoi gwybod am y rhesymau dros absenoldeb gan y gallai absenoldebau anawdurdodedig arwain at gymryd camau pellach.
- Hwyr i'r ysgol? - Rhaid i ddisgyblion fod yn yr ysgol erbyn diwedd amser y gofrestr. Mae'n rhaid i blant sy'n hwyr arwyddo i mewn yn y dderbynfa i sicrhau bod y rhai sy'n cyrraedd yn hwyr yn cael eu cofnodi ac am resymau iechyd a diogelwch. Gall bod yn hwyr yn rheolaidd arwain at gadw plant ar ôl ysgol neu gymryd camau pellach.
Dogfennau
- Strategaeth Presenoldeb yn yr Ysgol 2023-25 (PDF 322Kb)