Grantiau i ddisgyblion
Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y grantiau sydd ar gael ar gyfer disgyblion cymwys ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys:
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg
- Prydau Ysgol Am Ddim
- Grant Gwisg Ysgol Nodedig
- Grant Datblygu Disgyblion
Prydau ysgol am ddim
Os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol, gallwch hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn oedran ysgol.
Grant Hanfodion Ysgol
Os ydych chi'n riant neu'n warcheidwad i blentyn yn yr ysgol, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn grant i'ch helpu chi i dalu am eitemau hanfodol ar eu cyfer.
Grant dillad ysgol nodedig
Mae lwfans tuag at gost dillad ysgol nodedig ar gael i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion uwchradd. Mae lwfansau'n daladwy ar ddechrau pob blwyddyn yn ystod pum mlynedd y plentyn yn yr ysgol uwchradd.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn daladwy i ddisgyblion a myfyrwyr sydd mewn addysg llawn amser ar ôl 16 oed. Mae’n seiliedig ar incwm y cartref.
Ni weithredir y cynllun gennym ni. I ddysgu mwy, cysylltwch â’r ysgol neu â Chyllid Myfyrwyr Cymru.