Cyrsiau TG sylfaenol
Cyrsiau a gweithdai TG yn rhad ac am ddim
Ymwelwch ag un o'n sesiynau galw heibio anffurfiol i gael help, cyngor a chymorth yn rhad ac am ddim ynglŷn â defnyddio'ch cyfrifiadur personol, llechen, gliniadur neu ddyfais arall. P'un a ydych yn gwbl newydd i’r maes neu os oes gennych ymholiad penodol, gall ein harbenigwyr TG eich helpu.
ICDL yw'r ardystiad sgiliau cyfrifiadurol mwyaf blaenllaw yn y byd. Mae mwy na 14 miliwn o bobl wedi cymryd rhan yn y cwrs, mewn mwy na 100 o wledydd.
Mae’r rhaglen ICDL yn datblygu eich gallu i ddefnyddio cyfrifiadur a rhaglenni cyffredin. Mae ei hystod eang o fodiwlau yn cynnwys Hanfodion Cyfrifiadurol, Prosesu Geiriau a Diogelwch TG. Mae’r ymgeiswyr yn sefyll profion yn y modiwlau sydd fwyaf perthnasol i'w hanghenion addysgol a phroffesiynol, gan greu eu Proffil ICDL. Yn yr ysgol, y brifysgol neu’r gweithle, mae ICDL yn cynnig y sgiliau sydd arnoch eu hangen i lwyddo. Cofrestrwch gan ddefnyddio’r manylion isod.
Ffioedd cwrs ICDL
Mae unedau ICDL am ddim, ond mae ffi gofrestru o £15, a chost o £5 am bob arholiad wrth eu sefyll. Os ydych chi’n gymwys am ostyngiad, y ffi gofrestru yw £5, ond mae’r gost am bob arholiad yn £5 o hyd.
Yn ogystal â'r uchod, rydym hefyd yn cynnal ein cyrsiau TG ein hunain. Am fwy o wybodaeth, gweler ein tudalen ar gyfer pori fesul pwnc.
Mae gwella eich sgiliau TG yn gwella eich potensial i gael gwaith. Mae cyfle i chi ddeall sut i chwilio a gwneud cais am swyddi’n effeithiol ar-lein ar y cwrs cyflogadwyedd yma sydd wedi’i achredu gyda’r Sefydliad Siartredig ar gyfer TG, BCS. Cysylltwch â ni i gofrestru.
Ymrestru
I ymrestru, cysylltwch â: