Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwneud cais derbyn i ysgol

Mae gennym ni ddyletswydd statudol i, lle y bo modd, addysgu pob plentyn yn yr ysgol y mae ei rieni neu ei ofalwyr wedi ei dewis.

Yn y rhan helaethaf o achosion, mae rhieni'n hapus i ddewis yr ysgol y maen nhw yn ei dalgylch. Fodd bynnag mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r ysgol honno gael ei dewis a’i henwi ar ffurflen 'Derbyn i Ysgol' ac i'r ffurflen honno gael ei dychwelyd erbyn y dyddiad cau. Nid oes sicrwydd y bydd lle ar gael mewn ysgol benodol, hyd yn oed os ydych chi'n byw yn y dalgylch.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol. Gwneir ceisiadau i ysgolion cyfrwng Cymraeg gan ddefnyddio’r un ffurflenni â’r rhai at ddefnydd ysgolion cyfrwng Saesneg, ac mae’r amserlenni yr un fath. Yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, y corff llywodraethu yw awdurdod derbyn yr ysgol.

Gwnewch gais ar-lein

Gallwch wneud cais ar-lein nawr am le i'ch plentyn mewn ysgol. Cewch dawelwch meddwl o weld bod eich cais wedi cael ei dderbyn drwy gyfrwng Fy Nghyfrif. Mae’n gyflym ac yn hawdd a dim ond cyfeiriad e-bost sydd ei angen.

Cofrestrwch gyda Fy Nghyfrif heddiw neu fewngofnodi er mwyn cyrchu, cwblhewch a chyflwynwch eich ffurflen gais.

Derbyn i ysgolion uwchradd

Yr amserlen dderbyn ar gyfer disgyblion sy’n symud o ysgol iau/gynradd (Blwyddyn 6) i ysgol uwchradd (Blwyddyn 7) ym mis Medi 2025 (Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2013 a 31 Awst 2014):

Cam Gweithredu Dyddiad
Ceisiadau yn agor ar: Dydd Llun 14 Hydref 2024, 10am
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol: Dydd Gwener 17 Ionawr 2025, 4pm
Hysbysu rhieni/gofalwyr o roi/wrthod lle Dydd Llun 3 Mawrth 2025
Dyddiad cai i rieni/gofalwyr gyflwyno apêl: Dydd Llun 31 Mawrth 2025, 4pm

Derbyn i ysgolion babanod, iau a chynradd

Yr amserlen ar gyfer derbyn disgyblion derbyn sy’n dechrau ym mis Medi 2025, neu ddisgyblion sy’n symud o ysgol fabanod (Bl2) i ysgol iau (Bl3) ym mis Medi 2025 (Blwyddyn Derbyn - Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021. Ysgol Iau Blwyddyn 3 - Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2017 a 31 Awst 2018):

Cam Gweithredu Dyddiad
Ceisiadau yn agor ar Dydd Llun 11 Tachwedd 2024, 10am
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol Dydd Gwener 14 Chwefror 2025, 4pm
Hysbysu rhieni/gofalwyr o roi/wrthod lle Dydd Mercher 16 Ebrill 2025
Dyddiad cau i rieni/gofalwyr gyflwyno apêl: Dydd Mercher 14 Mai 2025, 4pm

Llythyr at Rieni/ Gofalwyr Plant sy’n mynd i flwyddyn 3 ym mis Medi 2025

Llythyr at Rieni/Gofalwyr Plant sy’n cychwyn dosbarth derbyn ym mis Medi 2025

Derbyn i feithrinfeydd

Nid yw’r amserlen ar gyfer derbyn i feithrinfeydd yn cael ei llywodraethu gan y Cod Derbyniadau Ysgolion (2013).

Yr amserlen ar gyfer derbyn i lefydd meithrin llawn amser gan ddechrau ym mis Medi 2025 (Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022):

Cam gweithredu Dyddiad
Ceisiadau yn agor ar Dydd Llun 06 Ionawr 2025, 10am
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol Dydd Gwener 4 Ebrill 2025, 4pm
Rhoi gwybod i rieni/gofalwyr am dderbyn/gwrthod lleoedd (dyddiad y cynnig) Dydd Gwener 30 Mai 2025

 

Derbyniadau rhan amser i feithrinfeydd

Yr amserlen ar gyfer derbyniadau i leoedd yn y Feithrinfa yn rhan-amser, sy’n cychwyn ym mis Ionawr 2026 neu fis Ebrill 2026 (mis Ionawr 2026 - plant a anwyd rhwng 1 Medi 2022 a 31 Rhagfyr 2022. Mis Ebrill 2026- plant a anwyd rhwng 1 Ionawr 2023 a 31 Mawrth 2023):

Cam gweithredu Dyddiad
Ceisiadau ar agor Dydd Llun 6 Ionawr 2025 am 10am
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol Dydd Gwener 29 Awst 2025 am 4pm
Rhoi gwybod i rieni/gofalwyr am dderbyn/gwrthod lleoedd (dyddiad y cynnig) Erbyn 31 Hydref 2025

 

Y meini prawf ar gyfer lleoedd ysgolion

Mewn rhannau o fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae pwysau am leoedd mewn ysgolion. Os yw nifer y ceisiadau’n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddwn yn defnyddio’r meini prawf ar gyfer hynny i neilltuo lleoedd yn ôl blaenoriaeth. O ganlyniad, efallai na fydd rhai disgyblion yn cael lle yn yr ysgol maent yn ei ffafrio, ac mae hyn yn fwy tebygol os ydynt yn byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol.

Darllenwch ein Polisi Derbyn i Ysgolion 2024-25 am fwy o wybodaeth am y meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael.

 

 

Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

Corff Llywodraethu’r ysgol yw ei hawdurdod derbyn.

Cysylltwch â'r ysgolion hyn yn uniongyrchol er mwyn edrych ar y meini prawf derbyn:

  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon John Lewis, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair a Sant Padrig, Maesteg
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Robert, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath, Pen-y-bont ar Ogwr

 

Cyswllt

Cymorth i Ddysgwyr
Ffôn: 01656 642622

Chwilio A i Y