Ceisiadau newid ysgol
Ystyriaethau cyn newid ysgol
Gall symud plentyn o un ysgol i’r llall fod yn eithaf aflonyddgar. Mae hyn yn arbennig o wir i ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11, oherwydd gall pynciau neu fyrddau arholi fod yn wahanol mewn ysgol arall, hyd yn oed o fewn yr un fwrdeistref sirol. Os nad yw cais i newid ysgol o ganlyniad i symud tŷ, cynghorir rhieni/gofalwyr yn gryf i siarad ag athro neu bennaeth eu plentyn. Gallant helpu gyda sawl mater a all arwain at geisiadau newid ysgol.
Fodd bynnag, i rai plant, gall newid ysgol olygu dechrau newydd. Yr adeg leiaf aflonyddgar i newid ysgol yw ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, ond dylid ystyried newid ysgol yn ofalus iawn ym mhob achos.
Gwneud cais i symud plentyn o un ysgol i un arall
Rydym yn trefnu symud plant o un ysgol i un arall yn ystod y flwyddyn ar gyfer pob ysgol ac eithrio ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Nodir y rhain ar waelod y dudalen hon. Mae’r broses ar gyfer ysgol eraill fel a ganlyn:
- Llenwch y ffurflen gais newid ysgol yn ystod y flwyddyn.
- Anfonwch y ffurflenni wedi'u llenwi at:
Cyswllt
Cymorth i Ddysgwyr
Gellir defnyddio’r manylion uchod i gael rhagor o fanylion am dderbyniadau a newid ysgol.
Ni ddylai rhieni/gofalwyr symud plentyn o ysgol nes bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau derbyn yn rhywle arall.
Symud plant i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
Mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, y corff llywodraethu sy’n gyfrifol am bob derbyniad. Dyma’r pum ysgol wirfoddol a gynorthwyir ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
- Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon John Lewis, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair a Sant Padrig, Maesteg
- Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Robert, Abercynffig
Os ydych yn ceisio symud eich plentyn i un o’r ysgolion hyn, cysylltwch â nhw am ragor o wybodaeth. Dyma fanylion cyswllt yr holl ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.