Anghenion dysgu ychwanegol
Mae Llywodraeth Cymru yn newid y ffordd y bydd plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig (AAA) yn cael eu cefnogi. Mae’r system newydd yn diffinio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd y gyfraith newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY yn arwain ar sawl prif newid a fydd yn gwneud y broses yn symlach ac yn fwy tryloyw i bawb sy’n gysylltiedig.
Bydd y wefan hon yn darparu cyngor a gwybodaeth i riant (rhieni)/gofalwr (gofalwyr) a phobl ifanc am ADY, y system ADY newydd a beth fydd y newidiadau hyn yn ei olygu i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Cael cefnogaeth: canllaw cam wrth gam
Siaradwch ag athro eich plentyn
Os ydych chi’n credu bod gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) siaradwch ag athro neu gydlynydd ADY eich plentyn (CydADY).
Creu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) gyda'ch gilydd
Os yw'r ysgol yn cytuno â chi bod gan eich plentyn ADY, bydd yr ysgol yn gweithio gyda chi a'ch plentyn i greu CDU.
Trafod unrhyw bryderon gyda'r ysgol, neu'r awdurdod lleol
Os nad yw'r ysgol yn cytuno bod gan eich plentyn ADY, neu os ydych chi'n anfodlon â CDU eich plentyn, trafodwch ef gyda'r ysgol neu'r awdurdod lleol
Gallwch gael mynediad at eiriolwr
Os yw'r awdurdod lleol yn cytuno â'r ysgol ond eich bod chi’n anhapus o hyd, gallant eich cyfeirio at wasanaethau eirioli annibynnol
Mae gennych hawl i apelio
Mae gan bob plentyn a pherson ifanc a'u rhieni neu ofalwyr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau i Dribiwnlys Addysg Cymru
Am fanylion a gwybodaeth bellach gwyliwch y canllaw fideo yma.
Dogfennau
- Tîm Nam ar y Golwg v1.0 (PDF 192Kb)
- Tîm Nam ar y Clyw v1.1 (PDF 365Kb)
- Rôl y Swyddog ADY Blynyddoedd Cynnar v1.0 (PDF 273Kb)
- Sut mae’r System Anghenion Addysgol Arbennig yn newid - gwybodaeth i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr v1.1.docx (PDF 338Kb)
- Y Tîm Cyfathrebu a Pherthnasoedd Anawsterau Emosiynol Ymddygiadol a Chymdeithasol Anhwylderaur Sbectrwm Awtistig v1.0 (PDF 285Kb)
- Y Tîm Cyfathrebu a Pherthnasoedd Therapyddion - Lleferydd ac Laith v1.0 (PDF 410Kb)
- Diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol v1.0 (PDF 279Kb)
- Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ADY i rieni a gofalwyr v1.0 (PDF 5604Kb)