Ysgolion Cyfrwng Cymraeg
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bedair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg (3 i 11 oed) ac un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg (11 i 19 oed).
Y ffordd orau i ddysgu Cymraeg yn blentyn yw mynychu ysgol gynradd sy'n cynnig addysg cyfrwng Cymraeg. Mewn ysgolion Cyfrwng Cymraeg:
- Mae plant yn cael eu addysgu yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg (hyd at saith oed).
- Mae'r Gymraeg yn parhau o fod yn brif gyfrwng addysgu yn ystod cyfnod allweddol 2 (oedrannau saith i 11).
- Mae'r cwricwlwm cyfan yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
Ysgolion Cynradd
Ysgol Gymraeg Bro Ogwr
Mae Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd wedi'i lleoli ym Mracla.
Mae'r ysgol yn falch o gynnig cwricwlwm eang, cytbwys a chynhwysol ar gyfer yr holl ddisgyblion drwy ei safonau uchel o ddysgu ac addysgu.
Mae'r ysgol yn gwerthfawrogi ei disgyblion ac yn darparu cwricwlwm gwerth chweil sy'n rhoi boddhad.
Mae Plant Bach Sarn (Ti a Fi) yn grŵp rhiant a phlentyn sy'n cael ei gynnal bob prynhawn Iau o 1.45pm - 3pm yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes.
Mae Fforwyr Bach (Ti a Fi) yn grŵp rhiant a phlentyn sy'n cael ei gynnal bob prynhawn Iau o 1pm - 3pm yn Soft Landings.
Nodwch os gwelwch yn dda bod croeso i deuluoedd fynychu unrhyw Gylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin yn yr ardal.
Mae pedwar Cylch Meithrin yn bwydo Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.
- Pencoed: Mae'r sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 9am - 1pm
- Plant Bach Sarn: Mae'r sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 9.20am - 1.05pm
- Gwdi-hŵ (Bryntirion): Mae'r sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 9.30am - 12.30pm
- Dechrau’n Deg Bracla: Mae'r sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 12.30pm - 3pm
Nodwch os gwelwch yn dda bod croeso i deuluoedd fynychu unrhyw Gylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin yn yr ardal.
Mae gan yr ysgol ddosbarth meithrin sy'n cynnig llefydd amser llawn a rhan amser o dair blwydd oed ymlaen.
Mae'r Clwb Brecwast ar agor bob dydd. Y cyfnod gollwng plant yw rhwng 8.10am - 8.30am.
Mae darpariaeth trochi hwyr yn cael ei chynnig i newydd-ddyfodiaid a disgyblion sy'n dychwelyd i ysgolion cyfrwng Cymraeg (o Flwyddyn 1).
Bydd disgyblion yn cael eu trochi yn yr iaith am dymor cyfan cyn dychwelyd amser llawn i'r ystafell ddosbarth.
Bydd yr ysgol yn gwneud cais am y ddarpariaeth hon gyda'r awdurdod lleol.
Mae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth o glybiau allgyrsiol ar ôl ysgol. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu gyda rhieni.
Mae Menter Bro Ogwr yn cynnal 'Clwb Bananas', clwb ar ôl ysgol o 3.30pm - 5.25pm yn yr ysgol.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn rhan o deulu Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
Gan weithio gyda'i gilydd fel pum ysgol cyfrwng Cymraeg maent yn darparu'r addysg orau drwy gyfrwng y Gymraeg i blant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd
Mae Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ym Metws, yn gwasanaethu ardaloedd Cwm Garw a Chwm Ogwr.
Mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd hapus a gofalgar lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel. Mae'r addysg yn cyd-fynd yn ofalus gydag anghenion dysgu disgyblion unigol.
Mae plant o Plant Bach Sarn yn aml yn trosglwyddo i Ysgol Calon y Cymoedd.
- Plant Bach Sarn: Mae'r sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 9.20am - 1.05pm
Nodwch os gwelwch yn dda bod croeso i deuluoedd fynychu unrhyw Gylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin yn yr ardal.
Mae gan yr ysgol ddosbarth meithrin sy'n cynnig llefydd amser llawn a rhan amser o dair blwydd oed ymlaen.
Mae'r Clwb Brecwast ar agor bob dydd. Y cyfnod gollwng plant yw rhwng 8.35am - 8.45am.
Mae darpariaeth trochi hwyr yn cael ei chynnig i newydd-ddyfodiaid i ysgolion cyfrwng Cymraeg o Flwyddyn 1 a rhai sy'n dychwelyd i addysg cyfrwng Cymraeg.
Bydd disgyblion yn cael eu trochi yn yr iaith am dymor cyfan cyn dychwelyd amser llawn i'r ystafell ddosbarth.
Bydd yr ysgol yn gwneud cais am y ddarpariaeth hon gyda'r awdurdod lleol.
Mae Pabi wedi'i leoli yn yr ysgol, ac mae'n safle gofal awtistiaeth arbenigol sy'n cynnig darpariaeth arbenigol mewn amgylchedd cefnogol er mwyn cwrdd â'u hanghenion drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae llefydd yn cael eu neilltuo gan yr awdurdod lleol.
Mae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth o glybiau allgyrsiol ar ôl ysgol. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu gyda rhieni.
Mae Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd yn rhan o deulu Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
Gan weithio gyda'i gilydd fel pum ysgol cyfrwng Cymraeg maent yn darparu'r addysg orau drwy gyfrwng y Gymraeg i blant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ysgol Cynwyd Sant
Ysgol cyfrwng Cymraeg sydd wedi'i gwreiddio'n gadarn ym Maesteg yng Nghwm Llynfi yw Ysgol Cynwyd Sant. Mae'n darparu addysg o safon uchel i dros 280 o ddisgyblion.
Mae hyn yn sicrhau bod disgyblion yn gadael yr ysgol yn ddwyieithog - maent yn rhugl yn y ddwy iaith ac yn hyderus i'w defnyddio. Mae disgyblion wedi'u paratoi'n drylwyr ar gyfer y pontio i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd sydd hefyd yng Nghwm Llynfi.
Gwahoddir rhieni i gyfranogi yng ngweithgareddau'r ysgol ac mae'r ysgol yn edrych ymlaen at bartneriaeth lwyddiannus ac ystyrlon gyda rhieni a gofalwyr.
Mae Ti a Fi Maesteg yn grŵp rhiant a phlentyn sy'n cael ei gynnal bob bore Gwener yng Nghanolfan Fairfield, Maesteg. Amser y sesiynau yw o 9.15am - 10.30am a 11.00am - 12.15pm.
Cylch Meithrin Blaenllyfni - amser y sesiwn yw: 9am – 11.30am
Nodwch os gwelwch yn dda bod croeso i deuluoedd fynychu unrhyw Gylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin yn yr ardal.
Mae Cylch Meithrin Cynwyd Sant wedi'i leoli yn yr ysgol ac mae'n croesawu plant o ddwy oed ymlaen. Mae'r Cylch ar agor o 9am - 3pm.
Mae plant sy'n mynychu darpariaeth Dechrau'n Deg Blaenllynfi yn aml yn trosglwyddo i Ysgol Cynwyd Sant.
Mae'r Cylch ar agor o 9am - 11.30am.
Nodwch os gwelwch yn dda bod croeso i deuluoedd fynychu unrhyw Gylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin yn yr ardal.
Mae gan yr ysgol ddosbarth meithrin sy'n cynnig llefydd amser llawn a rhan amser o dair blwydd oed ymlaen.
Mae'r Clwb Brecwast ar agor bob dydd. Y cyfnod gollwng plant yw rhwng 8.20am - 8.30am.
Mae darpariaeth trochi hwyr yn cael ei chynnig i newydd-ddyfodiaid i ysgolion cyfrwng Cymraeg o Flwyddyn 1 a rhai sy'n dychwelyd i addysg cyfrwng Cymraeg.
Bydd disgyblion yn cael eu trochi yn yr iaith am dymor cyfan cyn dychwelyd amser llawn i'r ystafell ddosbarth.
Bydd yr ysgol yn gwneud cais am y ddarpariaeth hon gyda'r awdurdod lleol.
Mae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth o glybiau allgyrsiol ar ôl ysgol. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu gyda rhieni.
Mae Menter Bro Ogwr yn cynnal 'Clwb Bananas', clwb ar ôl ysgol o 3.30pm - 5.25pm yn yr ysgol.
Mae Ysgol Cynwyd Sant yn rhan o deulu Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
Gan weithio gyda'i gilydd fel pum ysgol cyfrwng Cymraeg maent yn darparu'r addysg orau drwy gyfrwng y Gymraeg i blant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ysgol y Ferch O’r Sgêr
Mae Ysgol y Ferch o'r Sgêr yn ysgol cyfrwng Cymraeg wedi'i lleoli yng Ngogledd Corneli, sy'n gwasanaethu'r ardal o amgylch, gan gynnwys Porthcawl.
Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda Chylch Meithrin y Sgêr a Chlwb Ar Ôl Ysgol Corneli i ddarparu gofal o 7.30am – 6pm ar safle’r ysgol.
Mae Y Sgêr (Ti a Fi) yn grŵp rhieni a phlant sy'n cael ei redeg bob prynhawn dydd Gwener o 1.30pm - 3pm yng Nghanolfan Blant Integredig Corneli ar safle'r ysgol.
Nodwch os gwelwch yn dda bod croeso i deuluoedd fynychu unrhyw Gylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin yn yr ardal.
Mae Cylch y Sgêr wedi'i leoli yn yr ysgol ac mae'n croesawu plant o ddwy oed ymlaen.
Cynhelir sesiwn y prynhawn rhwng 1.15pm - 3.15pm, ac fe'i lleolir yng Nghanolfan Integredig i Blant Corneli, sydd ar yr un safle â'r ysgol.
Nodwch os gwelwch yn dda bod croeso i deuluoedd fynychu unrhyw Gylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin yn yr ardal.
Mae gan yr ysgol ddosbarth meithrin sy'n cynnig llefydd amser llawn a rhan amser o dair blwydd oed ymlaen.
Mae'r Clwb Brecwast ar agor bob dydd. Y cyfnod gollwng plant yw rhwng 8.30am - 8.40am.
Mae darpariaeth trochi hwyr yn cael ei chynnig i newydd-ddyfodiaid i ysgolion cyfrwng Cymraeg o Flwyddyn 1 a rhai sy'n dychwelyd i addysg cyfrwng Cymraeg.
Bydd disgyblion yn cael eu trochi yn yr iaith am dymor cyfan cyn dychwelyd amser llawn i'r ystafell ddosbarth.
Bydd yr ysgol yn gwneud cais am y ddarpariaeth hon gyda'r awdurdod lleol.
Mae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth o glybiau allgyrsiol ar ôl ysgol. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu gyda rhieni.
Cynhelir y clybiau ychwanegol yn y Ganolfan Integredig i Blant sydd ar yr un safle â'r ysgol.
Mae Ysgol y Ferch o'r Sgêr yn rhan o deulu Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
Gan weithio gyda'i gilydd fel pum ysgol cyfrwng Cymraeg maent yn darparu'r addysg orau drwy gyfrwng y Gymraeg i blant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Addysg uwchradd
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig ar gyfer bechgyn a merched o 11 i 19 oed sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol.
Dyma'r unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn yr awdurdod lleol.
Lleolir yr ysgol ym mhentref hanesyddol Llangynwyd ac mae'n gwasanaethu'r ddalgylch awdurdod lleol gyfan.
Mae'n gwasanaethu ardal sy'n dalgylch eang ac sy'n cynnwys ardaloedd trefol (Maesteg a Phorthcawl) ac ardaloedd difreintiedig ac sydd o dan anfantais economaidd.
Darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol sy’n darparu amgylchedd cefnogol i ddiwallu eu hanghenion trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae lleoedd yn cael eu dyrannu gan yr awdurdod lleol.
Tŷ Derwen yw darpariaeth arbenigol yr ysgol ar gyfer disgyblion ag Awtistiaeth, sy’n darparu darpariaeth arbenigol mewn amgylchedd cefnogol i ddiwallu eu hanghenion trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae yma ystafell synhwyraidd, ardaloedd cymdeithasu ac ystafell ddosbarth o fewn y safle ac mae'r ysgol yn mabwysiadu agweddau ASD gyfeillgar ar draws yr ysgol.
Mae darpariaeth trochi hwyr yn cael ei chynnig i newydd-ddyfodiaid a disgyblion sy'n dychwelyd i ysgolion cyfrwng Cymraeg hyd at Flwyddyn 9.
Mae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth o glybiau allgyrsiol yn ystod ac ôl ysgol.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn rhan o deulu Llangynwyd.
Gan weithio gyda'i gilydd fel pum ysgol cyfrwng Cymraeg maent yn darparu'r addysg orau drwy gyfrwng y Gymraeg i blant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.