Taith cyfrwng Cymraeg
Nod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn. Cydnabyddir yn eang bod mynychu ysgol gynradd sy’n cynnig addysg cyfrwng Cymraeg yn ffordd wych o gefnogi rhuglder yn yr iaith Gymraeg.
Mae amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i ddechrau dysgu Cymraeg o enedigaeth. O grwpiau plant bach/babanod a rhieni/gofalwyr i addysg gynradd ac uwchradd.
Blynyddoedd cynnar: O enedigaeth hyd at oedran ysgol
Prif ddarparwr addysg oed meithrin cyfrwng Cymraeg Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru yw Mudiad Meithrin.
Fel sefydliad sy’n frwdfrydig dros roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd dod o hyd i ofal plant o ansawdd uchel, ac i deimlo eich bod yn dewis yr addysg orau ar gyfer eich plentyn, i chi fel rhiant.
Nid oes angen i chi fod yn gallu siarad Cymraeg i fanteisio ar eu darpariaeth.
Mae Cymraeg i Blant yn cynnal nifer o grwpiau cymorth fel tylino babanod, ioga babanod a sesiynau odli ac arwyddo Cymraeg ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cylchoedd Ti a Fi – Grwpiau plant bach/babanod a rhieni/gofalwyr
Grwpiau plant bach/babanod a rhieni/gofalwyr yw’r Cylchoedd Ti a Fi sy’n cynnig sesiynau i rieni/gofalwyr a’u plant o enedigaeth hyd at oedran ysgol gorfodol.
Maent yn cynnig cyfleoedd i rieni a gofalwyr fwynhau chwarae gyda’u plant mewn awyrgylch anffurfiol Cymreig, gan gymdeithasu â rhieni eraill ar yr un pryd.
Nid oes angen i chi na’ch plentyn allu siarad Cymraeg i ymuno â’r grŵp lleol - mae sgyrsiau rhwng rhieni yn y grwpiau hyn yn digwydd yn Gymraeg a Saesneg.
Byddwch yn cael pob anogaeth i ymuno â’r gweithgareddau, ac efallai dysgu ychydig o Gymraeg eich hun ar y daith.
Mae croeso i deuluoedd fynychu unrhyw sesiwn Cylch Ti a Fi neu Cylch Meithrin. Nid oes unrhyw ddalgylchoedd.
Cylchoedd Meithrin – Grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg
Mae’r Cylchoedd Meithrin yn cynnig sesiynau i blant o ddwy oed hyd at oedran ysgol.
Gall plant sy’n mynychu’r Cylchoedd Meithrin ddechrau yno heb unrhyw ddealltwriaeth o'r Gymraeg.
Maent yn cynnig cyfleoedd i blant chwarae, dysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae plant yn gwneud cynnydd ieithyddol sylweddol yn ystod yr oedran hwn.
Mae’r cyfle iddynt chwarae a mwynhau cwmni ffrindiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer datblygiad pellach.
Mae croeso i deuluoedd fynychu unrhyw sesiwn Cylch Ti a Fi neu Cylch Meithrin. Nid oes unrhyw ddalgylchoedd.
Rhwng 3 ac 11 oed
Addysg gynradd
Y ffordd orau i ddod yn gwbl rhugl yn yr iaith Gymraeg yw mynychu ysgol gynradd sy’n cynnig addysg cyfrwng Cymraeg.
Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dysgir plant yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg (hyd at saith oed).
Mae'r Gymraeg yn parhau fel y prif gyfrwng addysgu yn ystod cyfnod allweddol 2 (oedrannau saith i un ar ddeg), cyflwynir yr iaith Saesneg ym Mlwyddyn 3.
Mae pedair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol: Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd, Ysgol Cynwyd Sant ac Ysgol Y Ferch O’r Sger.
Rhwng 11 ac 19 oed
Addysg uwchradd
Mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, darperir y cwricwlwm cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol: Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Maesteg.
Derbyniadau i ysgolion
Dylech wneud cais am le eich plentyn ar-lein pan fydd ceisiadau’n agor. Gallwch gael tawelwch meddwl o weld bod eich cais wedi cael ei dderbyn drwy Fy Nghyfrif. Mae’n gyflym ac yn rhwydd i’w wneud, a'r cwbl sydd ei angen arnoch yw cyfeiriad e-bost.️ Cofrestrwch ar Fy Nghyfrif heddiw neu mewngofnodwch i gael mynediad, cwblhau a chyflwyno eich ffurflen gais.
Cymorth ychwanegol
Mae llu o sefydliadau a chymdeithasau yn gweithio yn yr ardal sy’n trefnu gweithgareddau a digwyddiadau i blant ac oedolion drwy gyfrwng y Gymraeg.