Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Addysg Cyfrwng Cymraeg

Ydych chi’n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eich plentyn? Mae bod yn ddwyieithog yn dod â nifer fawr o fanteision ychwanegol:

  • Mae plant dwyieithog yn tueddu i fod yn gyflawnwyr uwch.
  • Mae pobl ddwyieithog yn meddwl yn greadigol.
  • Mae pobl ddwyieithog yn ei chael hi’n haws dysgu trydedd iaith.
  • Cyfleoedd gwaith ehangach yng Nghymru.

Mae medru’r Gymraeg a’r Saesneg yn rhoi mantais enfawr i bobl ifanc o Gymru pan fyddant yn mentro i’r farchnad waith yng Nghymru.

Mae ychydig dros 33% o gyflogwyr o’r farn fod sgiliau Cymraeg yn bwysig o ran eu gwasanaeth i gwsmeriaid, ac mae dros 25% o gyflogwyr o’r farn y byddent yn elwa o gael rhagor o sgiliau Cymraeg.

Yng Nghymru, mae plant sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn cyflawni cystal â phlant sy’n astudio drwy gyfrwng y Saesneg.

Yn ôl astudiaeth yn y cyfnodolyn, Brain and Language - Mae newid o un iaith i’r llall yn beth arferol i berson dwyieithog.

Mae hyn yn rhoi digonedd o ymarfer i’r ymennydd o ran canolbwyntio a hidlo gwybodaeth.

Gallwch wylio ein fideo i weld y cyfleoedd sydd gennym ni i’w cynnig!

Fe gefais i fy magu mewn cartref lle’r oedd Saesneg yn cael ei siarad ond fe benderfynodd fy rhieni fy mod i gael addysg Gymraeg. Rydw i’n fythol ddiolchgar am hyn.

Mae fy mhlant i’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac rydw i mor falch o allu dweud wrth y byd mai fy mhlant i yw dyfodol yr iaith Gymraeg.

- Claire, Pen-y-bont ar Ogwr

Ysgolion Cyfrwng Cymraeg

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bedair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg (3 i 11 oed) ac un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg (11 i 19 oed).

Ar hyn o bryd, nid oes ‘dalgylchoedd’ ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol. Gall rhiant/gwarchodwr wneud cais am le i’w plentyn mewn unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg yn y sir.

Taith cyfrwng Cymraeg

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i ddechrau dysgu Cymraeg o’r crud. O grwpiau rhieni/golfalwyr a phlant bach i addysg gynradd ac uwchradd. 

Trafnidiaeth i’r ysgol 

Wyddoch chi? - Rydym fel arfer yn cynnig trafnidiaeth am ddim o’r cartref i’ch ysgol cyfrwng Cymraeg addas agosaf o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, os ydych yn byw fwy na 1½ milltir i ffwrdd ar gyfer disgyblion meithrin, mwy na 2 filltir i ffwrdd ar gyfer disgyblion cynradd a mwy na 3 milltir i ffwrdd ar gyfer disgyblion uwchradd.

Mae fy mab i’n awtistig a flwyddyn yn ôl doedd e prin yn gallu siarad Saesneg. Erbyn hyn mae’n ddwyieithog, a fyddwn i ddim wedi gallu rhagweld hynny iddo. Mae wedi helpu ei ddatblygiad yn aruthrol.

Rydw i’n gweithio nawr fel cymhorthydd dysgu mewn ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg gyda phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydw i wrth fy modd fy mod i’n gallu rhoi’r addysg maen nhw’n ei haeddu i’r plant i gyd, drwy gyfrwng y Gymraeg.

- Sarah, Pencoed

Darpariaeth Trochi Hwyr

Gall rhai sy’n newydd i addysg cyfrwng Cymraeg fanteisio ar ein darpariaeth trochi hwyr, sy’n cynnig addysg iaith ddwys sy’n galluogi plant i ddatblygu lefel o feistrolaeth cyn symud i ddosbarth ar sail amser llawn.

  1. Cysylltwch â’ch ysgol cyfrwng Cymraeg leol a gofynnwch am ymweliad.
  2. Gallwch wneud cais am le yn yr ysgol drwy’r ‘swyddfa dderbyniadau’ y Sir.
  3. Bydd yr ysgol yn gwneud atgyfeiriad i'r ddarpariaeth trochi hwyr.
  4. Bydd eich plentyn yn mynychu’r ddarpariaeth trochi hwyr am un tymor ac hefyd yn treulio rhai sesiynau yn ei ddosbarth newydd. 

Cwestiynau Cyffredin

Dim o gwbl. Nid oes rhaid i chi fod yn Gymry i siarad Cymraeg.

Mae rhieni plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi dod o bedwar ban byd: Cymru, gweddill y DU, Ewrop, Asia, Affrica, Gogledd a De America.

Er bod rhai yn ystyried eu hunain yn Gymry, nid yw eraill - y pwynt allweddol yw bod dysgu Cymraeg ar gael i bawb.

Na, dim o gwbl. Mae disgwyl i blant sy’n gadael ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg gyrraedd union yr un safon o Saesneg â’r rhai mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg.

Ac mewn ysgolion uwchradd, mae plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn sefyll union yr un arholiadau TGAU a Safon Uwch â’r rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg (nid yw’n wir i’r gwrthwyneb: nid oes disgwyl i blant mewn addysg cyfrwng Saesneg gyrraedd yr un safonau na sefyll arholiadau Cymraeg ar yr un lefel â’r rhai mewn addysg cyfrwng Cymraeg).

Gan nad yw'r rhan fwyaf o blant yn siarad Cymraeg gartref,mae ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi hen arfer â chefnogi disgyblion a rhieni.

Ar gyfer plant ifancach, bydd cyfarwyddiadau gwaith cartref yn cael eu darparu yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Yn ddiweddarach, bydd plant yn gallu egluro'u gwaith i'w rhieni eu hunain.

Yn wir,mae ymchwil yn awgrymu bod gwneud eu gwaith mewn dwy iaith yn helpu plant i ddeall y pwnc dan sylw.

Mae gwefan addysg Hwb yn cynnig amrywiaeth o offer ac adnoddau dysgu digidol sydd ar gael yn genedlaethol.

www. hwb.gov.wales

Dim o gwbl.Nid oes terfyn ar allu plant i ddysgu ieithoedd.Yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop,mae'n gyffredin i blant ifanc allu siarad dwy neu dair iaith.

Gall siarad un iaith helpu i atgyfnerthu'r llall, a'i gwneud yn haws i blentyn ddysgu rhagor o ieithoedd yn ddiweddarach.

Mae’r weithdrefn ymgeisio yr un fath ar gyfer pob ysgol – nid yw iaith cartref y plentyn, crefydd na’i hunaniaeth genedlaethol, yn cael eu hystyried yn y broses ymgeisio.

Derbyniadau i ysgolion

Mae rhai rhieni, ar ôl dewis ysgol Gymraeg i’w plentyn, yn penderfynu dysgu Cymraeg hefyd. Mae’n gyfle gwych i ddysgu gyda’ch gilydd, ymarfer eich sgiliau iaith ar eich gilydd a threulio amser pwysig gyda’ch gilydd.

Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac maent yn addas i ddysgwyr ar bob lefel.

Chwilio A i Y