Rheolau atodiad enillion ar gyfer cyflogwyr
Rydym yn cyhoeddi Gorchmynion Atodiad Enillion i gyflogwyr pan nad yw rhywun wedi talu ei dreth gyngor.
Dim ond ar ôl i lys ynadon ddyfarnu gorchymyn atebolrwydd am y ddyled sy’n weddill mae ein hadran treth gyngor yn gallu rhoi gorchymyn.
Mae’r gorchymyn Atodiad Enillion yn ddogfen gyfreithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd arian o gyflog cyflogai. Wedyn caiff ei anfon ymlaen atom ni nes bod y ddyled wedi’i chlirio.
Dyletswyddau cyflogwyr
Rhaid i gyflogwyr wneud y canlynol:
- gweithredu’r gorchymyn yn unol â’r cyfarwyddyd a’r rheoliadau
- talu i ni’r didyniadau erbyn y 18fed o’r mis fan bellaf yn ystod y mis sy’n dilyn cyflwyno’r gorchymyn gennym
- rhoi gwybod i ni yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod os nad ydynt yn cyflogi dyledwr
- rhoi gwybod i ni yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i’r dyledwr yn gadael os bydd yn stopio ei gyflogi ac yntau mewn dyled i ni o hyd
Caiff cyflogwyr dynnu £1 y gorchymyn o gostau gweinyddol bob tro y tynnir swm o gyflog cyflogai. Dim ond cyfanswm o ddau orchymyn gaiff gydredeg.
Gall peidio â gwneud y canlynol:
- tynnu didyniau arwain at weithrediadau yn erbyn cyflogwr, a allai arwain at ddirwy
- dweud wrthym nad yw dyledwr yn gweithio iddynt mwyach, neu na fydd yn gweithio iddynt mwyach, arwain at ddirwy
Mae’r didyniadau’n ganran o enillion net. Gan mai’r llywodraeth ganolog sy’n pennu’r gyfradd ac nid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, nid oes modd ei haddasu.
Manylion ar gyfer taliadau banc
Banc Barclays
36 Dunraven Place
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1JB
Cod didoli: 20-12-58
Rhif y cyfrif: 13415198
Enw’r cyfrif: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cofiwch ddyfynnu rhif cyfrif treth gyngor y cyflogai. Gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr’ a’u croesi. Cofiwch nodi rhif cyfrif treth gyngor y cyflogai ar gefn y siec.
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich treth gyngor, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.