Newid eich manylion am dreth cyngor
Dyma’r ffurflen i’w defnyddio hefyd os ydych chi’n gadael y fwrdeistref sirol. Chwiliwch am adran y dreth gyngor yn Fy Nghyfrif ac wedyn am y ffurflen gyda’r teitl ‘newid cyfeiriad’.
Dylech fod â’r manylion canlynol wrth law:
- eich cyfeiriad blaenorol a’ch cyfeiriad newydd
- eich rhif cyfeirnod treth gyngor blaenorol
- y dyddiad y gwnaethoch symud tŷ
- enw a chyfeiriad y landlord os ydych yn rhentu’r eiddo presennol neu flaenorol, neu enw a chyfeiriad y cyfreithiwr a ddefnyddiwyd os ydych chi wedi prynu/gwerthu
Mae hyn yn cael ei wneud yn Fy Nghyfrif hefyd. Ewch i adran y dreth gyngor a defnyddio’r ffurflen ‘Ffurflen gais ar gyfer newidiadau i’ch cyfrif treth gyngor’.
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich treth gyngor, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.