Methu talu treth gyngor
Os byddwch yn methu talu erbyn y dyddiad dyledus, byddwn yn anfon neges atgoffa atoch chi. Rhaid i chi dalu’r swm gorddyledus ar y gweddill o fewn saith diwrnod, neu bydd balans y cyfrif yn dod yn daladwy.
Os na chaiff y swm ei dalu yn llawn, byddwn yn cyflwyno gwŷs a chodir costau. Os byddwn yn cyflwyno rhybudd terfynol, bydd rhaid i chi dalu balans y cyfrif yn llawn o fewn saith diwrnod. Os na fyddwch yn talu yn llawn, byddwn yn cyflwyno gwŷs a chodir costau.
Wedyn, os na wneir taliad yn llawn gyda chostau’r wŷs, byddwn yn gwneud cais am Orchymyn Atebolrwydd mewn gwrandawiad yn y llys ynadon. Ni fydd angen i chi fod yn bresennol yn y gwrandawiad. Wedyn, byddwch yn derbyn llythyr yn rhoi gwybod i chi bod Gorchymyn Atebolrwydd wedi’i sicrhau.
Os na fyddwch yn talu’r swm yn llawn neu’n cysylltu â’r swyddfa dreth o fewn y 14 diwrnod canlynol, byddwn yn defnyddio asiantaeth orfodi. Wedyn byddwch yn mynd i gostau pellach am bob Gorchymyn Atebolrwydd gaiff ei anfon, yn unol â’r amserlen isod.
Cam y ffi | Ffi sefydlog | Canran ffioedd | |
---|---|---|---|
£0 i £1,500 | ˃£1,500 | ||
Cam gweinyddu/cydymffurfio (gweithredol pan fydd cwmni gorfodi’n derbyn cyfarwyddyd) | 0% | 0% | |
Cam gorfodi (gweithredol pan mae asiantaeth gorfodi’n ymweld am y tro cyntaf) | 0% | 7.5% | |
Gwerthu (gweithredol yn ystod yr ymweliad cyntaf at ddiben cludo nwyddau i’w gwerthu) | 0% | 7.5% |
Rheoliadau Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau (Ffioedd) Ionawr 2014 Deddf Tribiwnlysoedd 2007 sydd wedi pennu’r ffioedd uchod. Felly, nid oes modd eu trafod.
Os cewch unrhyw anawsterau gyda gwneud taliadau, cysylltwch â ni ar unwaith i drafod y sefyllfa, gan ddefnyddio’r manylion isod.
Cyswllt
Gwener: 8:30am i 4:30pm