Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gostyngiadau treth gyngor

Gwiriwch i weld a ydych chi’n gymwys i gael gostyngiad oddi ar eich treth gyngor. Mae’r gostyngiadau’n cynnwys:

  • Gostyngiad unigolyn sengl
  • Pobl nad oes raid iddynt dalu’r dreth gyngor
  • Gostyngiad oherwydd anabledd meddwl sylweddol
  • Esemptiad i’r rhai sy’n gadael gofal

Gostyngiad person sengl

Os mai dim ond un oedolyn sy’n byw mewn eiddo, mae posib dyfarnu gostyngiad o 25%.

Os ydych chi’n gymwys ond heb gael gostyngiad, gwnewch gais drwy’r botwm uchod.

Pobl y gellir eu diystyru ar gyfer y dreth gyngor

Efallai y gall y categorïau isod o bobl gael eu diystyru at ddibenion y dreth gyngor. Efallai y bydd gostyngiad o 25% neu 50% ar gael ar gyfer:

  • myfyrwyr llawn amser, myfyrwyr nyrsio, hyfforddeion cynlluniau hyfforddi i ieuenctid a phrentisiaid
  • cleifion ysbytai preswyl
  • pobl sy’n derbyn gofal mewn cartrefi gofal
  • pobl â nam difrifol ar y meddwl
  • pobl sy’n aros mewn rhai hosteli neu lochesi dros nos
  • ieuenctid 18 ac 19 oed sydd yn yr ysgol neu newydd adael yr ysgol
  • gweithwyr gofal ar gyflog isel sy’n cael eu cyflogi gan elusen fel rheol
  • pobl yn y carchar
  • aelodau o gymunedau crefyddol, sy’n golygu mynachod neu leianod
  • pobl sy’n gofalu am rywun ag anabledd nad yw’n briod, partner, neu fab neu ferch dan 18 oed

Gostyngiad ar gyfer nam meddyliol difrifol

Gall unigolyn sydd â nam meddyliol difrifol sy’n byw ar ei ben ei hun neu ddim ond gydag eraill sydd â namau meddyliol difrifol hawlio gostyngiad o 100% ar ei dreth gyngor. Os yw’n byw gyda pherson arall heb nam meddyliol difrifol, gall y cartref hwnnw hawlio gostyngiad o 25% ar y dreth gyngor. Fodd bynnag, os yw unigolyn sydd â nam meddyliol difrifol yn byw gyda dau neu fwy o oedolion heb nam difrifol, nid oes gostyngiad.

Mae posib ôl-ddyddio’r gostyngiad hwn i ddyddiad y diagnosis, fel y cadarnheir gan y meddyg a thrwy dderbyn hawl i fudd-daliadau perthnasol.

Cymhwysedd am ostyngiad ar gyfer nam meddyliol difrifol

I hawlio’r gostyngiad nam meddyliol difrifol, rhaid i unigolyn fod:

Pobl sy’n gadael gofal

Gall rywun sy’n gadael gofal gael ei eithrio rhag gorfod talu Treth y Cyngor os yw’n byw ar ei ben ei hun neu gyda phobl eraill sy’n gadael gofal neu fyfyrwyr yn unig.

Os yw’n byw gydag oedolion eraill, gall fod yn gymwys i gael gostyngiad diystyru o 25%.

Mae’r Rheoliadau’n diffinio person sy’n gadael gofal fel person sy’n -

  • 24 oed neu’n iau (nid yw’n gymwys o’i ben-blwydd yn 25 oed); ac sy’n
  • Berson ifanc yng nghategori 3 fel a diffinnir gan Adran 104 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gallwch wneud cais ar-lein, yn gyntaf bydd angen i chi fewngofnodi/cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif i gael mynediad i borth Treth y Cyngor, dewiswch Gwasanaethau ac yna'r ffurflen gais Gadawyr Gofal.

Chwilio A i Y