Gostyngiad Band Anabl
Os yw eich eiddo chi wedi cael ei addasu oherwydd anabledd rhywun sy’n byw ynddo, efallai eich bod yn gymwys i gael gostyngiad yn eich treth gyngor.
I gymhwyso, mae’n rhaid i’r eiddo fod ag o leiaf un o’r canlynol:
- cegin neu ystafell ymolchi ychwanegol a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl
- digon o ofod llawr i ddefnyddio cadair olwyn
- ystafell sy’n cael ei chadw i ddiwallu anghenion person anabl, fel ystafell a ddefnyddir ar gyfer dialysis
Gyda’r gostyngiad, bydd treth gyngor mewn band is na’ch band swyddogol yn cael ei chodi arnoch chi.
Mae’r bobl yn y band isaf yn cael gostyngiad o swm sy’n cyfateb i un nawfed o dreth gyngor eiddo band D.