Bandiau treth gyngor
Mae eich eiddo wedi cael ei osod mewn un allan o naw band prisio’n seiliedig ar ei werth cyfalaf ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2003. Dyma’r bandiau:
Band prisio | Ystod o brisiau (fel ar 1 Ebrill 2003) |
---|---|
A | Hyd at £44,000 |
B | £44,001 hyd at £65,000 |
C | £65,001 hyd at £91,000 |
D | £91,001 hyd at 123,000 |
E | £123,001 hyd at £162,000 |
F | £162,001 hyd at £223,000 |
G | £223,001 hyd at £324,000 |
H | £324,001 hyd at £424,000 |
I | £424,001 a mwy |
Apelio yn erbyn band treth gyngor
Gallwch apelio yn erbyn eich band treth gyngor os ydych chi mewn un anghywir. Ond mae’r rheolau ar gyfer apelio’n llym ac yn cynnwys y canlynol:
- ni chaniateir unrhyw apeliadau’n seiliedig ar symudiadau prisiau tai cyffredinol
- rhaid i chi apelio o fewn chwe mis i brynu’r eiddo
- rhaid i chi ddangos bod camddealltwriaeth wedi bod ynghylch gwerth eich eiddo
Cyfeiriwch pob ymholiad i sylw:
Cyswllt
Y Swyddog Rhestru, Y Swyddfa Brisio
E-bost:
nsohelpdesk@voa.gsi.gov.uk
Ffôn:
0300 050 5505
Cyfeiriad:
Tŷ Rhodfa,
Heol Tŷ Glas,
Llanisien, Caerdydd,
CF14 5GR.
Nid yw apelio’n caniatáu i chi wrthod talu’r dreth gyngor. Os bydd eich apêl yn llwyddiannus, gwneir addasiad.