Telerau Cyfrifiannell Amser Aros
Er mwyn helpu ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr i benderfynu a yw tai cymdeithasol yn addas ar eu cyfer hwy, mae’r Gyfrifiannell Amser Aros yn rhoi gwybodaeth fel y canlynol:
- lle mae eiddo cymdeithasau tai
- nifer y tai yn ardaloedd amrywiol y fwrdeistref
- nifer yr ymgeiswyr sy’n aros am dŷ
- amcangyfrif o amseroedd amser
Cyn defnyddio’r Gyfrifiannell Amser Aros, darllenwch y telerau defnydd. Cliciwch ar y botwm isod i gytuno i’r telerau hyn a dechrau defnyddio’r Gyfrifiannell Amser Aros.
Telerau defnydd
Mae’r Gyfrifiannell Amser Aros yn ganllaw rhyngweithiol. Mae’n galluogi i ddefnyddwyr amcangyfrif yn fras faint o amser y bydd yn ei gymryd i gael eiddo cymdeithas tai drwy enwebiad gennym ni i gymdeithas tai.
Daw’r data sydd wedi’u defnyddio i gyflenwi’r wybodaeth o gipolygon a ddiweddarwyd o dro i dro. O’r herwydd, dylid eu defnyddio’n ofalus, ac er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau manwl gywirdeb y data, gall camgymeriadau ddigwydd.
Hefyd, mae’r amseroedd aros sydd wedi’u cyfrif yma’n seiliedig ar ddata hanesyddol ac, yn bennaf, data o’r 12 mis diwethaf. Nid oes unrhyw warant y bydd yr un patrymau gosod i’w gweld yn ystod y 12 mis nesaf. O ganlyniad, dim ond fel amcangyfrif bras ddylid defnyddio’r ffigurau hyn wrth ystyried amseroedd aros. Sylwer bod llety pobl hŷn yn cynnwys eiddo sydd wedi’i ddynodi ar gyfer grŵp oedran hŷn, sydd dros 55 neu 60 oed fel rheol.
Mae’n bwysig iawn nodi mai dim ond i ymgeiswyr ym mandiau A, B neu C mae’r Gyfrifiannell Amser Aros yn berthnasol. Nid yw’r amseroedd aros sydd wedi’u cyfrif yn ystyried yr ymgeiswyr yn y band blaenoriaeth sydd angen tŷ ar unwaith. O ganlyniad, dim ond fel amcangyfrif bras o nifer yr ymgeiswyr o’ch blaen ar y rhestr aros ddylid defnyddio’r ffigurau hyn.
Gan fod ymgeiswyr yn gallu newid ble maent eisiau byw, gallai’r nifer o’ch blaen ar y rhestr aros ar gyfer ardal benodol newid.