Lleoliadau maeth
Rydym yn gwybod nad yw maethu’n ymwneud ag ymagwedd ‘un i bawb’ – mae pob plentyn yn wahanol.
Mae plant a phobl ifanc sydd angen gofalwyr maeth yn dod o gefndiroedd amrywiol; maent oll yn gofyn am sgiliau gwahanol a lefelau ymrwymiad amrywiol.
Nid yw gofal maeth o anghenraid yn golygu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Bydd angen gofal am ddiwrnod yr wythnos ar rai plant er enghraifft, tra bod plant eraill angen gofal pob dydd nes iddynt ddod yn oedolion. Does dim patrwm penodol, mae popeth yn dibynnu ar y gofalwyr maeth, a’r hyn y maent yn credu y gallent ei gynnig.
Caiff mathau gwahanol o leoliadau maeth eu cynnig, fel bod eich rôl fel gofalwr maeth yn addas i chi a’ch bywyd teuluol. Yn ystod eich asesiad, byddwn yn eich paratoi ar gyfer y mathau gwahanol hyn o leoliadau, er mwyn gweld pa un fydd orau i chi.
Dim ond am gyfnod cyfyngedig o amser y bydd llawer o blant angen gofal. Gall hyn fod am ychydig wythnosau tra bod trefniadau gofal yn cael eu gwneud ar eu cyfer, neu ychydig fisoedd neu flynyddoedd hyd yn oed. Mae’n bosib y bydd rhai yn dychwelyd adref, tra bod rhai eraill yn symud at ofalwyr maeth hirdymor. Bydd rhai eraill yn cael eu mabwysiadu, neu’n destun Gwarcheidiaeth Arbennig.
Os nad yw’n bosib i blentyn ddychwelyd i’w deulu ei hun neu gael ei fabwysiadu, bydd angen gofal maeth parhaus. Mae hyn yn galluogi plant i ffynnu mewn cartref sefydlog, ac yn galluogi gofalwyr maeth a’u teuluoedd i ddatblygu perthnasau cryf a chalonogol gyda phlant a phobl ifanc ar sail barhaus. Pan fydd person ifanc yn cael ei ben-blwydd yn 18 oed mewn gofal maeth parhaus, efallai y bydd yn penderfynu symud ymlaen.
Gall lleoliadau brys ddigwydd o ganlyniad i riant yn dod yn sâl, ac angen gofal mewn ysbyty. Mae gofal brys hefyd yn hanfodol os oes angen lleoli plentyn ar unwaith os ystyrir ei fod yn anniogel iddo aros gartref. Yn bennaf, lleoliadau dros nos neu ar y penwythnos yw'r rhain.
Seibiant
Mae gofal seibiant yn ymwneud ag edrych ar ôl plentyn i gefnogi teulu mewn argyfwng, neu mewn amgylchiadau penodol er mwyn cefnogi gofalwyr maeth llawn amser yn ystod gwyliau’r ysgol. Gall hyn fod am ychydig ddyddiau neu wythnosau, pan roddir cefnogaeth i’r teulu neu os gwneir cynlluniau amgen.
Cysylltiadau teuluol
Mae llawer o blant a phobl ifanc gydag anghenion arbennig sy’n byw gartref gyda’u teuluoedd. Byddai llawer o’r rhain yn elwa llawer iawn ar egwyl fer i ffwrdd o gartref y teulu a’r amgylchedd arferol.
Mae’r cynllun hwn yn ddelfrydol ar gyfer hynny, gyda phlant anabl yn aros gyda gofalwyr Cysylltiadau Teuluol (Family Link) cymeradwy am gyfnod byr. Gall yr egwyl fod yn hyblyg yn dibynnu ar anghenion y plentyn.
Mae’r egwyl yn rhoi cyfle i’r plentyn ehangu ei orwelion, gwneud ffrindiau newydd a mwynhau profiadau gwahanol. I weddill y teulu, mae’r egwyl yn gadael iddyn nhw gymryd seibiant a siopa ychydig, neu fynd am dro hyd yn oed!
Cysylltwch â’r tîm Cynllun Cysylltiadau Teuluol fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi er mwyn penderfynu a yw’r cynllun yn iawn i chi.
Ffôn: (01656) 642674
E-bost: shortbreaks@bridgend.gov.uk
Gyda llawer o rieni angen cymorth ychwanegol i ofalu am eu plentyn, mae arnom angen mwy o bobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddod ymlaen i gefnogi teulu.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Rhiant a phlentyn, ewch i'r dudalen we
Nod Cau’r Bwlch yw cynnig lleoliadau byrdymor arbenigol i helpu plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth ac ymddygiad heriol.
Bydd gofalwyr maeth pontio yn cynnig pecyn gofal holistaidd i blant sydd ag anghenion amrywiol. Gall hyn gynnwys materion ymlyniad, llawer o leoliadau’n chwalu ac anawsterau o ran dysgu ac addysg.
Bydd y gofalwyr maeth pontio yn cynnig lleoliadau maeth byrdymor, 24/7, am hyd at 24 wythnos.
Yn dilyn lleoliad llwyddiannus, bydd y person ifanc yn barod i gael ei baru gyda threfn hirdymor sy’n addas ar gyfer ei anghenion a’i ddyheadau. Gall hyn fod yn lleoliad maeth hirdymor, dychwelyd i’r teulu biolegol neu amgylchedd byw’n annibynnol.
I gael mwy o wybodaeth am ofal trosiannol, ewch i'r dudalen we.