Transitional Carer transcript
Rydym yn chwilio am ofalwyr pontio arbenigol newydd i ddarparu cartref dros dro, ond diogel i blentyn neu berson ifanc sydd wedi profi trawma.
Gallai’r plant neu'r bobl ifanc yma fod wedi ei chael hi’n anodd ymgartrefu mewn amgylchedd teuluol o'r blaen.
Nod y lleoliad pontio tymor byr 24 wythnos yw helpu, cefnogi ac arwain plant neu bobl ifanc i gyrraedd eu potensial a'u galluogi i bontio'n esmwyth i'w cartref parhaol.
Gallai hyn olygu symud i leoliad maethu hirdymor, dychwelyd at deulu genedigol neu amgylchedd byw'n annibynnol.
I ddod yn ofalwr pontio, bydd angen i chi gael y sgiliau, y wybodaeth a’r llety priodol er mwyn cefnogi plentyn.
Bydd profiadau trawmatig wedi effeithio ar blant mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bydd bob plentyn yn dangos ymddygiadau sy'n adlewyrchu eu hamgylchiadau unigol:
- bydd rhai wedi profi camdriniaeth ac esgeulustod
- ymddygiad afiach neu amhriodol fel ffyrdd o ymdopi
- lleoliadau wedi methu sawl gwaith
- anawsterau emosiynol ac anawsterau perthynas
- anawsterau gyda dysgu ac addysg
- ymddygiad tramgwyddus
- materion diffyg ymddiriedaeth ac ymlyniad
Bydd eich sgiliau cyfathrebu a thrafod rhagorol yn caniatáu i chi adeiladu ymddiriedaeth a pherthynas werthfawr gyda’r plentyn eu helpu i oresgyn rhwystrau a allai fod wedi arwain at fethiant lleoliadau yn y gorffennol.
Bydd gofalwyr yn cael eu cefnogi gan weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol, a fydd yn cynnwys:
- Dadansoddwr ymddygiad
- Gweithiwr cymdeithasol
- Hwb gofal plant
- Gweithwyr cefnogi lleoliad
- Gweithwyr ailuno ac allgymorth.
Mae’r swydd hon yn addas i ymgeiswyr sydd â chymwysterau perthnasol, neu gefndir ym maes gofal plant, gofal cymdeithasol, addysgu, gwaith ieuenctid neu ofal maeth.
Os ydych chi'n credu mai gofal pontio yw'r rôl i chi, dysgwch fwy am y gwasanaeth.
Cysylltwch â’n tîm neu ewch i’n gwefan:
E-bost: Joanna.Lloyd-Jones@bridgend.gov.uk
Ffôn: 01443 425007
Gwefan: www.bridgend.gov.uk/fostering