Llety gyda chymorth
Rhoi mwy na dim ond ystafell
Nid yw llawer o bobl ifanc agored i niwed, sy’n dod o ofal neu’n methu byw gartref mwyach, yn barod i fyw ar eu pen eu hunain eto. Mae’r cynllun llety gyda chymorth yn cynnig ystafell mewn cartref i bobl ifanc 16 i 21 oed.
Mae’n cynnig amgylchedd diogel i bobl ifanc gyda theulu er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a sefydlogrwydd emosiynol wrth baratoi i fyw yn annibynnol.
Mae’r person ifanc yn dod yn rhan o’r cartref ac yn rhannu’r cyfleusterau; mae’n dod yn lletywr mewn gwirionedd. Mae’r cynllun yn bennaf ar gyfer cyfnod tymor byr. Weithiau mae’r person ifanc angen cefnogaeth ychwanegol. Mae hyn er mwyn datblygu ei hyder a’r sgiliau gofynnol drwy gyfarwyddyd ac anogaeth gyson.
Yn raddol bydd y person ifanc yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am ofalu amdano neu amdani ei hun nes ei fod yn teimlo ei fod yn gallu ymdopi.
Dod yn ddarparwr llety gyda chymorth
Mae cynnig lle yn eich cartref yn helpu pobl ifanc i gael cefnogaeth ac anogaeth. Mae angen hyn er mwyn dechrau dysgu sgiliau bywyd er mwyn gwneud pontio i fod yn oedolyn yn haws ac i sicrhau llwyddiant wrth fyw yn annibynnol.
Mae’n bwysig bod darparwyr yn deall bod y bobl ifanc yn y cynllun hwn yn debygol o fod wedi profi llawer o heriau, a thrawma o bosib. Mae’n bwysig rhoi gwybod am unrhyw newidiadau yn ymddygiad y person ifanc neu os yw’n torri rheolau. Mae goruchwyliaeth reolaidd a’r posibilrwydd o fynychu cyfarfodydd cefnogi a chyrsiau hyfforddi ar gael.
Yr hyn sydd arnoch ei angen i fod yn ddarparwr llety gyda chymorth
Rydyn ni’n chwilio am bobl o gefndiroedd amrywiol: does dim cyfyngiadau.
- gall unrhyw un dros 21 oed gydag ystafell sbâr wneud cais am fod yn ddarparwr llety gyda chymorth.
- nid yw bod mewn gwaith llawn amser yn atal cymryd rhan yn y cynllun.
- ni fydd eich statws priodasol, eich rhywioldeb na’ch cefndir diwylliannol yn effeithio ar eich cais.
Ychydig iawn o amgylchiadau sy’n atal rhywun rhag bod yn ddarparwr yn awtomatig, felly peidiwch â diystyru eich hun.
Nid oes raid i ddarparwyr gael unrhyw gymwysterau ffurfiol, mae hyfforddiant parhaus ar gael a hefyd cefnogaeth gyson gan y tîm llety gyda chymorth. Os oes gennych chi unrhyw amheuon, cofiwch gysylltu â ni i gael gwybod a fyddai eich sefyllfa yn eich atal chi rhag dod yn ddarparwr llety gyda chymorth.
Y cyfan y mae gofyn i chi ei ddarparu yw ystafell wely yn benodol ar gyfer yr unigolyn, defnydd o gyfleusterau (cegin, ystafell golchi dillad, ystafell ymolchi, ardaloedd cyffredin) a bwyd a chefnogaeth ymarferol ac emosiynol.
Mae’r cyfleusterau hyn yn darparu cyfleoedd i’r person ifanc ddysgu sylfeini coginio, glanhau, cyllidebu a siopa.
Y rhinweddau sy’n ofynnol mewn darparwyr:
- dealltwriaeth o’r anawsterau posib mae pobl ifanc yn eu hwynebu
- synnwyr cyffredin
- personoliaeth gynnes a gofalgar
- disgwyliadau rhesymol o allu pobl ifanc
- amynedd a hyblygrwydd
- synnwyr digrifwch
- ymrwymiad i ddarparu amgylchedd cefnogol, anogol a diogel – yn enwedig pan nad yw pethau’n mynd yn iawn i’r person ifanc
- dyhead i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc mewn angen
Camau at fod yn ddarparwr
Cam un: Bydd y tîm yn ymweld â’ch cartref i siarad am y cynllun yn fanylach. Bydd yr ymweliad yma’n rhoi cyfle i chi benderfynu a yw hyn yn addas i chi.
Cam dau: Os ydych yn bodloni’r meini prawf, bydd archwiliadau swyddogol yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol, eich meddyg teulu a’r DBS, a hefyd bydd angen geirda personol a chyflogai.
Cam tri: Byddwch chi ac unrhyw aelodau o’ch teulu sy’n byw gyda chi’n cael eich asesu.
Cam pedwar: Bydd panel yn penderfynu cymeradwyo ceisiadau ai peidio, a bydd pennaeth y gwasanaeth yn awdurdodi hynny wedyn.
Byddwch yn cael cyfle i gael hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd hyn yn gwella eich sylfaen o sgiliau i’ch helpu i gefnogi pobl ifanc yn llwyddiannus. Byddwch hefyd yn teimlo eich bod yn cyflawni rhywbeth a byddwch yn gallu defnyddio eich sgiliau a’ch profiad bywyd i wneud gwahaniaeth i fywyd person ifanc.
Os byddwch yn bodloni’r holl feini prawf uchod, cewch eich cyfateb yn sensitif i berson ifanc a fydd yn addas i’ch cartref chi a’ch profiadau personol.
Cofiwch y gall y broses gymeradwyo gymryd hyd at bum neu chwe mis o amser yr ymweliad cyntaf â’ch cartref.