Gwobrau Cyflawniad Plant a Phobl Ifanc 2024
Mae ‘Gwobrau Plant a Phobl Ifanc 2024’ Bwrdd Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu plant a phobl ifanc 5 – 21 mlwydd oed sydd naill ai’n derbyn gofal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu wedi gadael gofal y cyngor.
Os ydych chi’n gofalu neu’n darparu cymorth ar gyfer plentyn/unigolyn ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, neu rywun sydd wedi gadael gofal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gallwch ei enwebu ar gyfer gwobr gyflawni.
Ceir gwobr ychwanegol, 'Gwobr Help Llaw', er mwyn i weithwyr proffesiynol enwebu oedolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i berson/au ifanc - bydd rhestr fer o'r enwebiadau hyn yn cael ei llunio gan y fforwm ieuenctid, gan adael grŵp dethol o enwebedigion i gael eu gwobrwyo. Gall plant a phobl ifanc enwebu oedolion hefyd mewn arolwg ar wahân.
Cynhelir y seremonïau gwobrwyo ddydd Llun 28 Hydref 2024 yn Academi Steam, Coleg Penybont, Pencoed.
Bydd y diwrnod wedi’i rannu fel a ganlyn:
- 5 oed - 14 oed, 10am–3pm
- 15 oed +, 4pm–7.30pm
Categorïau Gwobrau
Gwobr Gwneud Gwahaniaeth
I gydnabod plentyn/person ifanc sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned, ysgol, clwb neu gartref naill ai’n unigol neu fel rhan o grŵp e.e. helpu eraill neu wirfoddoli.
Gwobr Sgil Gwych
Cydnabod plentyn / person ifanc sydd wedi dangos talent ac wedi rhagori mewn sgil arbennig e.e. coginio, TG, mathemateg, celf, gwaith ysgol benodol, chwaraeon, offeryn cerdd ac ati.
Gwobr Llwyddiant mewn Chwaraeon
Cydnabod person ifanc sydd naill ai wedi dangos cynnydd sylweddol mewn chwaraeon neu wedi cyflawni rhagoriaeth mewn chwaraeon.
Gwobr Gymunedol Calon Aur
I gydnabod plentyn / unigolyn ifanc sydd wedi dangos cymorth neu garedigrwydd arbennig tuag at rywun. Cefnogwyd gan gyfraniadau Just Giving y gymuned. Rhowch gyfraniad
Gwobr Cyflawniad i Ddysgu
I gydnabod plentyn / person ifanc am eu hymrwymiad i ddysgu e.e. wedi cael presenoldeb rhagorol; dangos penderfyniad neu wedi cyflawni canlyniadau a oedd yn well na'r disgwyl neu'n eithriadol.
Gwobr Paratoi ar gyfer Annibyniaeth
Cydnabod person ifanc sydd wedi dangos ymrwymiad i’w ddatblygiad personol er mwyn ennill ei annibyniaeth e.e. datblygu eu sgiliau coginio; dysgu sut i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus; cymryd rhan mewn gweithdai ar gyllidebu ac ati.
Gwobr Symud Ymlaen (rhai sy’n gadael gofal)
Cydnabod rhywun sy’n gadael gofal sydd wedi symud i’w llety ei hun ac wedi dechrau byw’n annibynnol e.e. defnyddio eu harian yn ddoeth; datblygu eu sgiliau DIY; delio'n llwyddiannus â'r cyfrifoldebau o redeg eu cartref eu hunain.
Gwobr Swydd a Menter
Cydnabod rhywun sy'n gadael gofal sydd wedi dangos penderfyniad, ymrwymiad, llwyddiant a chymhelliant mewn gwaith neu fusnes.
Gwobr Penderfyniad a Chymeriad
Cydnabod plentyn / person ifanc am eu hymrwymiad i wella eu hagwedd, ymddygiad, dangos dyfalbarhad neu ddangos penderfyniad i gyflawni rhywbeth.
Gwobr Help Llaw
I gydnabod unrhyw oedolyn sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i berson ifanc / pobl ifanc e.e. athro, gweithiwr cymdeithasol, gofalwr maeth – unrhyw oedolyn lle maent wedi gwrando ar bobl ifanc ac yn gweithredu ar yr hyn y maent yn ei ddweud; eu trin ag urddas a pharch; mynd y tu hwnt i'w rôl arferol.
Gwobr Llais y Plentyn
Cydnabod plentyn / person ifanc sydd wedi hyrwyddo ei hawliau neu hawliau pobl eraill mewn gofal; wedi hyrwyddo ymdrechion pobl sydd wedi eu cefnogi nhw neu eraill mewn gofal; wedi dangos dewrder i godi llais neu siarad am faterion sy'n bwysig iddynt.
Gwnewch enwebiad - Mae’r enwebiadau nawr ar gau.
I enwebu plentyn/unigolyn ifanc profiadol neu rywun sydd wedi gadael gofal, cwblhewch ffurflen enwebu ar-lein.
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: Dydd Mercher 25 Medi 2024
Cyfleoedd i noddi
Rydym am gynnig yr elw gorau posibl ar eu buddsoddiad i'n noddwyr.
Fel partner gwerthfawr, bydd eich cwmni, eich brand a’ch neges yn cyd-fynd â’r Bwrdd Rhianta Corfforaethol a Gwobrau Cyflawniad Plant a Phobl Ifanc 2024.
Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich amcanion a'ch negeseuon allweddol a byddwn yn teilwra'r buddion nawdd i fodloni’ch nodau.
Mae ein holl becynnau yn hyblyg a gellir eu haddasu i weddu i anghenion eich busnes.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Steve Berry, Swyddog Rhianta Corfforaethol ac Ymgysylltu: steve.berry@bridgend.gov.uk