Trawsysgrif fideo Gwasanaethau Cymorth Cynnar Pen-y-bont ar Ogwr
Ar brydiau mae plant, pobl ifanc a'u teuluoedd angen ychydig o gymorth a chefnogaeth ychwanegol i gael bywydau hapus, iach a llwyddiannus.
Mae ein tîm Cymorth Cynnar yma i ddod o hyd i'r cymorth cywir ar yr amser cywir i chi, drwy wrando arnoch chi.
Mae teuluoedd wrth galon ein cymorth, o'r cychwyn cyntaf hyd at y diwedd.
Gallwn eich cefnogi chi gyda:
- rhianta neu gyfathrebu gyda'ch plant, a rheoli ymddygiad heriol
- cymorth llesiant a gwytnwch ar eich cyfer chi a'ch plant
- materion ynghylch presenoldeb yn yr ysgol
- cymorth ariannol a cham-drin domestig
- tai a chyflogaeth
Sut mae cymorth cynnar yn gweithio:
Ar ôl i chi dderbyn atgyfeiriad, bydd gweithiwr Cymorth Cynnar yn trefnu i gwrdd â chi er mwyn cwblhau asesiad teulu llawn.
Byddwn yn siarad am gryfderau yn ogystal â meysydd a ellid eu gwella, ac yn edrych ar newidiadau yr hoffech chi eu gwneud i wella bywyd teuluol.
Ar ôl cwblhau'r asesiad gyda'ch gweithiwr cymorth, byddwch yn cytuno ar gynllun gweithredu.
Hefyd, efallai y byddwn yn cysylltu â sefydliadau eraill sydd wedi cefnogi eich teulu yn y gorffennol, neu a all eich helpu yn y dyfodol.