Hybiau Cymorth Cynnar
Mae tri hwb Cymorth Cynnar ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Maent wedi’u lleoli yn ardaloedd canlynol y sir:
- Coleg Cymunedol Y Dderwen (CCYD) - Hwb y Gogledd
- Ysgol Brynteg – Hwb y Dwyrain
- Canolfan Bywyd y Pîl – Hwb y Gorllewin
Mae’r Hybiau Cymorth Cynnar yn wasanaeth ymyrraeth gynnar sy’n cynnig cymorth o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Yn gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o asiantaethau partneriaeth a chymunedol lleol, gall y tîm deilwra cymorth i’r amrywiaeth o anghenion a wynebir yn ddyddiol gan deuluoedd, a chynnig cymorth tymor byr.
Mae’r tîm yn ceisio cyfarfod teuluoedd mewn lleoliad sy’n gyfforddus iddynt ac sy’n ffafriol ganddynt, megis y cartref teuluol, yr Hwb lleol neu’r ysgol.
Ymhlith yr ystod eang o wasanaethau sy’n cael eu cynnig gan yr hybiau Cymorth Cynnar mae:
- Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd
- Gweithiwyr Cymorth Dechrau’n Deg
- Gweithwyr Lles
Gall y Gweithwyr Cefnogi hyn weithio ar y cyd â rhieni, plant a phobl ifanc i ganfod y datrysiadau mwyaf addas ar eu cyfer nhw a’u teuluoedd mewn sawl ffordd yn cynnwys:
- Darpariaeth uniongyrchol o amrywiaeth o raglenni teuluol sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- Darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol
- Gweithredu fel gweithiwr allweddol i deulu
- Cynghori ar ystod eang o wasanaethau sy’n seiliedig ar y gymuned
- Cwblhau Asesiadau sy’n Seiliedig ar y Teulu a chynlluniau cymorth