Gwasanaethau Cymorth Cynnar Pen-y-bont ar Ogwr
Ar brydiau mae plant, pobl ifanc a'u teuluoedd angen ychydig o gymorth a chefnogaeth ychwanegol i gael bywydau hapus, iach a llwyddiannus.
Mae’r Tîm Cymorth Cynnar yn wasanaeth gwirfoddol sy’n anelu at ddarparu’r gefnogaeth gywir i chi a’ch teulu i gefnogi newid cadarnhaol. Rydym yn gosod y teulu wrth galon y gefnogaeth o’r dechrau hyd at ddiwedd unrhyw gysylltiad â’r gwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar:
- siarad am gryfderau yn ogystal â meysydd y gellid eu gwella
- cael y gofal cywir i chi ar yr amser cywir
- dod â thîm o'r bobl iawn ynghyd allai helpu eich teulu
- gwrando arnoch chi a rhoi opsiynau i chi.
Sgrinio Cymorth Cynnar
Y Tîm Sgrinio Cymorth Cynnar yw’r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw arbenigwr, rhiant, plentyn neu berson ifanc gael gwybodaeth, cyngor a chymorth angenrheidiol.
Hybiau Cymorth Cynnar
Mae’r Hybiau Cymorth Cynnar yn wasanaeth ymyrraeth gynnar sy’n cynnig cymorth o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Cwnsela
Gall plant a phobl ifanc rhwng 10 a 25 mlwydd oed gael mynediad at wasanaeth cwnsela, sy’n rhoi cyfle iddynt siarad â chwnselydd cymwys ar sail un i un am faterion sy’n peri pryder iddynt.
Gwasanaethau Cymorth
Gallwch gael mynediad at nifer o wasanaethau cymorth ar draws y fwrdeistref sirol.
Cael mynediad at gymorth
I gael mynediad at gymorth, cwblhewch ffurflen ‘Cais am Gymorth’ a’i dychwelyd i: earlyhelp@bridgend.gov.uk
Ar ôl derbyn atgyfeiriad, bydd gweithiwr Cymorth Cynnar yn trefnu i gwrdd â chi er mwyn cwblhau asesiad teulu llawn. Byddwn yn edrych ar newidiadau yr hoffech chi eu gwneud i wella bywyd teuluol ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Ar ôl cwblhau'r asesiad gyda'ch gweithiwr cymorth, byddwch yn cytuno ar gynllun gweithredu. Bydd hwn yn nodi sut byddwch yn cyflawni newidiadau cadarnhaol a phwy fydd yn gyfrifol am bob gweithred.
Hefyd, efallai y byddwn yn cysylltu â sefydliadau eraill sydd wedi cefnogi eich teulu yn y gorffennol, neu a all eich helpu yn y dyfodol.
Efallai y bydd y gweithiwr Cymorth Cynnar yn cyfeirio at asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill os oes angen cymorth ychwanegol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth cywir
Adolygir y cymorth gan Gymorth Cyntaf yn rheolaidd, a gall barhau am hyd at 6 mis.