Mynd i'ch biwro
Y Biwro Ieuenctid
Y biwro ieuenctid ac ymyriadau cyn llys
Beth yw'r Biwro?
Dyma banel sy'n cynnwys cynrychiolydd o:
- Heddlu De Cymru
- Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
- aelod o'r gymuned a benodir gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (YJS) a'r Heddlu
Beth yw ei ddiben?
Diben y Biwro yw gwneud penderfyniadau am y ffordd fwyaf priodol o ddelio â throsedd.
Gall hyn gynnwys opsiynau fel:
- penderfyniad adfer ieuenctid
- rhybudd
- rhybudd amodol
Bydd y Biwro’n delio â'r rhan fwyaf o droseddau heb eu cyfeirio i'r llys, ond o dan rhai amgylchiadau efallai mai hwn fydd y cam mwyaf priodol i’w gymryd.
Sut bydd y Biwro’n gwneud penderfyniad?
Bydd achos yn cael ei gyfeirio at y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a fydd yn cynnal asesiad manwl o'r holl faterion sy'n ymwneud â’r troseddu ac yn dyfeisio cynllun gweithredu i ddelio ag ef. Bydd hyn yn cynnwys:
- ymweliad cartref wedi'i drefnu gan Swyddog YJS i gwrdd â'r person ifanc a'i riant (rhieni) / gofalwyr
- bydd tîm Adfer YJS yn cysylltu â'r dioddefw(y)r er mwyn gofyn am eu barn
- cyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Biwro sy'n cynnwys gwybodaeth ac argymhellion a fydd yn cynorthwyo gyda'r broses o wneud penderfyniadau
Pan fydd y Biwro’n cyfarfod, bydd yn ystyried y canlynol yn ofalus:
- difrifoldeb y drosedd (troseddau).
- i ba raddau mae'r person ifanc yn ysgwyddo cyfrifoldeb am ei weithredoedd.
- ymateb y person ifanc yn ystod y cyfnod asesu.
- y cynllun gweithredu gwirfoddol y cytunwyd arno gyda'r YJS.
Wedyn, bydd penderfyniad ar y cyd yn cael ei wneud am yr achos.
Ymyriad cyn y llys
Penderfyniad Adfer Ieuenctid
Mae'r penderfyniad adfer ieuenctid yn rhaglen wirfoddol sydd â'r nod o fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol person ifanc.
Rhybudd Ieuenctid
Mae'r rhybudd ieuenctid yn rhaglen wirfoddol sydd â'r nod o fynd i'r afael ag achosion ymddygiad troseddol person ifanc. Er bod y rhaglen yn wirfoddol, byddai methu cydymffurfio â'r ymyriad hwn yn ystyriaeth wrth ddewis unrhyw opsiynau penderfynu yn y dyfodol.
Rhybudd Amodol Ieuenctid
Mae'r rhybudd amodol ieuenctid yn benderfyniad ffurfiol y tu allan i'r llys gydag ymyrraeth orfodol. Gall methu cydymffurfio â gofynion Rhybudd Amodol Ieuenctid arwain at erlyn am y drosedd wreiddiol.
Os ydych chi wedi cael mechnïaeth i fynychu'r Biwro Ieuenctid ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.