Dioddefwyr troseddau ieuenctid a chyfiawnder adferol
Os ydych chi wedi dioddef oherwydd trosedd ieuenctid, bydd ein swyddog dioddefwyr yn cysylltu â chi. Bydd y swyddog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut mae eich achos yn cael sylw ac yn trafod gyda chi sut effeithiwyd arnoch chi/eich teulu. Bydd wedyn yn cynnig cyfle i chi fod yn rhan o’r broses drwy gymryd rhan mewn cyfiawnder adferol. Cyflwynir yr holl wasanaethau a gynigir yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau.
Mae cyfiawnder adferol yn rhoi cyfle i chi egluro effaith lawn trosedd, cael atebion i gwestiynau sydd gennych efallai a nodi sut gallai’r person ifanc wneud iawn am y niwed mae wedi'i achosi. Mae Cyfiawnder Adferol yn dwyn pobl ifanc i gyfrif am eu gweithredoedd ac yn edrych ar sut gallant wneud iawn.
Mae cymryd rhan yn unrhyw un o'r prosesau adferol a nodir isod yn digwydd ar sail gwbl wirfoddol dan arweiniad ac yn gyfrinachol, ac mae’n cael ei asesu am addasrwydd gan staff Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Cynhadledd Adferol yn gyfarfod wyneb yn wyneb rhwng y person sydd wedi cael ei niweidio a'r drwgweithredwr, ac mae'n cael ei hwyluso gan staff hyfforddedig mewn amgylchedd diogel. Mae'r gynhadledd yn rhoi cyfle i bawb gyflwyno cofnod o'r hyn ddigwyddodd a sut effeithiwyd arnynt. Ar ddiwedd y cyfarfod, cytunir ar ffordd ymlaen i sicrhau nad oes unrhyw broblemau pellach ac i weld a ellir gwneud iawn am y niwed a achoswyd.
Mewn Cyfryngu Gwennol, mae hwylusydd yn gweithredu fel cyfryngwr i alluogi cyfathrebu rhwng y rhai sydd wedi cael eu niweidio a'r drwgweithredwr. Dyma gyfle i gyfathrebu am yr hyn ddigwyddodd ac i ddod o hyd i ffordd ymlaen heb i'r partïon ddod wyneb yn wyneb.
Pan fydd person ifanc yn destun Gorchymyn Atgyfeirio, mae'n ofynnol iddo fynychu cyfarfod panel. Mae’r cyfarfod panel yn cynnwys swyddog BYJS a dau wirfoddolwr hyfforddedig sy'n cynrychioli'r cyhoedd. Nod y cyfarfod yw llunio contract o ymyriadau i'r person ifanc gymryd rhan ynddo yn ystod ei orchymyn ac mae’r contract yn mynd i'r afael â'i ymddygiad troseddol a'i anghenion. Mae cyfle i chi fynychu'r panel i siarad am sut mae gweithredoedd y person ifanc wedi effeithio arnoch chi, awgrymu beth gall y person ifanc ei wneud i atal problemau pellach a thrafod ffordd ymlaen.
Efallai na fyddwch eisiau cwrdd â'r person ifanc wyneb yn wyneb, ond eisiau derbyn ymddiheuriad yr un fath am ei weithredoedd. Gellir ysgrifennu llythyrau o ymddiheuriad fel rhan o waith ymwybyddiaeth dioddefwyr ehangach, fel bod y person ifanc yn gallu sylweddoli’r effaith mae ei weithredoedd wedi'i chael.
Mae gwneud iawn yn elfen allweddol o'r gwaith rydym yn ei wneud gyda phobl ifanc ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r person ifanc gyflawni tasgau er budd dioddefwyr troseddau a'r gymuned. Rydym yn gweithio'n rheolaidd i wella adeiladau a mannau cyhoeddus, fel pafiliynau chwaraeon, ysgolion, parciau a chanolfannau cymunedol, drwy gwblhau tasgau fel paentio a garddio. Rydym hefyd yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau i godi arian ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol. Mae cyfle i chi awgrymu syniadau ynghylch pa waith sydd i gael ei wneud gan y person ifanc. Gall hyn fod o fudd i chi, gwneud iawn am y niwed a achoswyd, a gwella eich ardal neu gyfleuster rydych yn ei ddefnyddio neu godi arian ar gyfer elusen rydych yn ei chefnogi.
Os ydych chi wedi dioddef o drosedd ieuenctid ac os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig, cysylltwch â ni.