Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwybodaeth i rieni

Mae’r Ddarpariaeth Gofal Plant ar gyfer Cymru yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth ac addysg gynnar ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant tair i bedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, 39 wythnos yn ystod y tymor a hyd at naw wythnos o ddarpariaeth gwyliau.  Sylwch fod tair wythnos wyliau yn cael eu dyrannu fesul tymor ar sail pro-rata.

Mae’r 10 awr yn cynnwys lleiafswm o 10 awr o addysg gynnar ac uchafswm o 20 awr o ofal plant. Bydd faint o ofal plant y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar faint o addysg gynnar a gynigir gan bob awdurdod lleol.

Gall rhieni ddewis hyd at ddau ddarparwr ar gyfer darpariaeth yn ystod y tymor a hyd at ddau ddarparwr ar gyfer darpariaeth yn ystod y gwyliau.

Bydd plant cymwys yn gallu cael mynediad i elfen gofal plant y Cynnig Gofal Plant o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd nes eu bod yn gymwys i dderbyn lle mewn addysg llawn amser.

Dogfennau

Gwybodaeth bwysig

Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr bolisi addysg gynnar llawn amser estynedig i blant tair oed.  Mae hyn yn golygu bod unrhyw blentyn sy'n dair cyn 31 Awst yn gymwys i addysg gynnar llawn amser yn yr ysgol o fis Medi.  Ar ddechrau'r tymor ysgol pan mae plentyn yn gymwys i dderbyn lle ar gyfer addysg llawn amser, ni fydd y plentyn bellach yn gymwys i dderbyn y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor, fodd bynnag, bydd modd hawlio'r ddarpariaeth gwyliau am hyd at naw wythnos y flwyddyn hyd at 31 Awst wedi iddynt droi'n bedair. 

Ni fydd modd i rieni wrthod lle i addysg gynnar llawn amser er mwyn parhau i dderbyn y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor.  Bydd hyn dal yn berthnasol pe byddwch yn penderfynu peidio gwneud cais am le mewn ysgol neu'n gwrthod lle mewn ysgol.

Gellir defnyddio'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer cynhaliaeth sydd wedi ei gofrestru i ddarparu'r Cynnig megis:   

  • meithrinfeydd
  • gwarchodwyr plant
  • gwarchodwyr Plant:
  • crêche
  • gofal y tu allan i oriau ysgol

Pan mae ysgol yn cynnig dechrau cyfnodol i'r tymor, ni fydd rhieni'n gymwys i ddefnyddio'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer y dyddiau hyn yn ystod y tymor pan nad yw eu plant yn yr ysgol.

I fod yn gymwys am y Ddarpariaeth Gofal Plant, rhaid i chi fodloni’r canlynol:

  • Byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Oes gennych chi blentyn cymwys? Edrychwch ar y tabl isod.
  • Ennill cyflog wythnosol cyfartalog sy’n cyfateb i, neu ddim mwy nag, 16 awr ar gyfradd yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol, ond yn llai na £100,000 y flwyddyn.

Os ydych chi’n deulu rhiant sengl, rhaid i chi fod yn gweithio, ac os ydych chi’n deulu dau riant, mae’n rhaid i chi’ch dau fod yn gweithio.

Os ydych chi’n hunangyflogedig neu ar gontract oriau sero, rhaid i chi allu profi hyn drwy ddarparu’r dogfennau perthnasol. Mae’r ddarpariaeth hon ar gael yn ystod absenoldeb mamolaeth ac i bawb â salwch tymor hir.

Mae rhai budd-daliadau yn dal i fod yn gymwys i deulu dau riant (ble mae un yn gweithio).  Rhain yw:

  • budd-dal analluogrwydd;
  • lwfans gofalwyr;
  • lwfans anabledd difrifol
  • lwfans cyflogaeth a chymorth
  • credydau yswiriant gwladol ar sail Analluogrwydd i Weithio neu Allu Cyfyngedig i Weithio, a
  • thaliadau gan y Lluoedd Arfog a wnaed i gyn-filwyr a anafwyd yn ddifrifol.

Mae yna eithriadau eraill sy'n berthnasol i deuluoedd dau riant a rhiant sengl.  Rhain yw:

  • os nad ydych yn y gweithle am gyfnod neu wedi gohirio eich astudiaethau am resymau sy'n gysylltiedig ag absenoldeb statudol rhiant, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, gallwch dal fod yn gymwys am y Cynnig, a gall
  • rhieni drwy berthynas, gwarcheidwaid, rhieni maeth, yn ogystal â rhieni nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus, hawlio'r Cynnig cyn belled â'u bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cynnig
  • un rhiant yn gweithio ac un rhiant yn derbyn budd-daliadau cymwys; neu, mae un rhiant mewn addysg neu hyfforddiant ac un yn cael budd-dal cymwys

Dyddiadau ymgeisio pwysig

Os ganwyd eich plentyn rhwng

Cymwys o

Cymwys tan

Ceisiadau ar agor

1 Medi 2020 a 31 Rhagfyr 2020

8 Ionawr 2024 (tymor y gwanwyn)

31 Awst ar ôl ei 4ydd pen-blwydd 2025

Ar agor

1 Ionawr 2021 a 31 Mawrth 2021

8 Ebrill 2024 (tymor yr hydref)

31 Awst ar ôl ei 4ydd pen-blwydd 2025

Ar agor

1 Ebrill 2021 a 31 Awst 2021

2 Medi 2024

(tymor yr hydref)

31 Awst ar ôl ei 4ydd pen-blwydd 2025

19 Mehefin 2024

1 Medi 2021 a 31 Rhagfyr 2021

6 Ionawr 2025

(tymor y gwanwyn)

31 Awst ar ôl ei 4ydd pen-blwydd  2026

23 Hydref 2024

1 Ionawr 2022 a 31 Mawrth 2022

28 Ebrill 2025

(tymor yr haf)

31 Awst ar ôl ei 4ydd pen-blwydd 2026

12 Chwefror 2025

 

Cyn i chi wneud cais

Darllenwch y wybodaeth isod yn ofalus cyn dechrau ar eich cais

Mae angen un rhiant arweiniol i gwblhau'r cais, hyd yn oed os oes gwarchodaeth ar y cyd ar waith.

I wneud cais am y gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru, bydd angen i chi fewngofnodi yn defnyddio Porth y Llywodraeth. 

Os nad oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth, yna bydd angen i chi greu cyfrif.  Unwaith y byddwch wedi cofrestru fel hyn, gallwch ddechrau ar eich cais.

Cyn i chi gychwyn ar eich cais, byddwch angen y wybodaeth ganlynol wrth law:

 

  • Rhif Yswiriant Gwladol, cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt;
  • Cyfeiriad a chod post;
  • Cyfeiriad a chod post eich gwaith;
  • Cyfeiriad a chod post gwaith eich partner ar yr aelwyd;
  • Eich enillion wythnosol cyfartalog chi a'ch partner ar yr aelwyd;
  • Eich cyflog blynyddol gros chi a'ch partner ar yr aelwyd;
  • Caniatâd eich partner ar yr aelwyd i ddarparu'r wybodaeth hon;
  • Enw(au) Plentyn/Plant a Dyddiad Geni - yn union fel sydd ar y dystysgrif geni

Byddwch angen tystiolaeth i ddangos oed eich plant, eich cyfeiriad, eich enillion a'ch incwm ac enillion ac incwm eich partner ar yr aelwyd (os yw'n berthnasol)

 

Dull Adnabod Plentyn

 

Fersiwn llawn o dystysgrif geni eich plentyn, neu, os nad yw'r fersiwn llawn gennych, byddwch angen:

  • Y fersiwn fer o'r dystysgrif geni
  • Prawf o gyfrifoldeb rhieni megis:
  • Llythyr budd-dal plant
  • Llythyr credyd treth
  • Llythyr gan adran derbyniadau meithrinfa eich awdurdod lleol
  • Cofnod meddygol neu lyfr coch eich plentyn

 

Prawf o gyfeiriad - wedi ei ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf

 

  • Cyfriflen treth gyngor ddiweddaraf neu'r bil cyfleustodau mwyaf diweddar, megis nwy, dŵr, neu drydan;
  • Cyfriflen treth gyngor ddiweddaraf;
    • Os ydych yn byw gyda'ch rhieni, llythyr wedi ei arwyddo ganddyn nhw yn cadarnhau mai hwn yw eich preswylfa arferol.
    • Cyfriflen fanc ddiweddaraf;

 

Prawf enillion

 

  • Taflenni cyflog rhieni yn ystod y tri mis neu'r 12 wythnos ddiwethaf ar gyfer rhiant un A rhiant dau (os yw'n berthnasol);
  • Newydd eu penodi - llythyr y cynnig swydd/cytundeb cyflogaeth (mae'n ofynnol ei fod yn nodi'r dyddiad dechrau, nifer o oriau gwaith a chyflog misol/blynyddol);
  • Manylion cyswllt cyflogwr, yn cynnwys: cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost;
  • Llythyr yr Adran Gwaith a Phensiynau diweddaraf i gadarnhau eich cymhwysedd ar gyfer un o'r budd-daliadau cymwys;
  • Llythyr gan Adran Gwaith a Phensiynau neu lythyr gan gyflogwr cyfredol a fyddai'n gwneud rhieni'n gymwys i'r Cynnig Gofal Plant os nad ydynt mewn gwaith ar hyn o bryd;
  • Os ydych yn hunangyflogedig (yn cynnwys gofal maeth) bydd angen un o'r canlynol arnoch:
    • Ffurflen dreth Hunanasesu ddiweddaraf yn cynnwys rhif Cyfeirnod Treth Unigryw (UTC) a dyddiad cofrestru (SA302);
    • Copi o gyfrifon diweddaraf;
    • Llythyr gan eich cyfrifydd ynghylch faint rydych yn ei ennill.

 

Prawf o incwm blynyddol ychwanegol - (a manylion partner)

 

Os ydych yn ennill unrhyw rai o'r canlynol fel incwm blynyddol ychwanegol, bydd tystiolaeth o hyn yn ofynnol:

 

  • Bonws
  • Difidendau
  • Incwm Rhent
  • Lwfans Cynhaliaeth
  • Lwfans Maethu
  • Incwm o log
  • Arall

 

Prawf o addysg neu hyfforddiant

 

  • Tystiolaeth o fod wedi cofrestru'n ffurfiol ar gwrs AU neu AB perthnasol. Pan mae rhiant wedi gwneud cais am le ar gwrs AU neu AB perthnasol, ac wedi cael cynnig lle ar gwrs o'r fath, ond nad yw wedi cofrestru eto, dylai ddarparu tystiolaeth o gynnig ffurfiol o le ar y cwrs.

Sut i wneud cais

I wneud cais rhaid i chi lenwi ffurflen gais ar-lein. Os byddwch yn gwneud cais yn rhy gynnar, bydd eich cais yn cael ei wrthod yn awtomatig. Gwnewch gais unwaith mae’r dyddiad agor perthnasol ar gyfer ceisiadau wedi bod.

Holwch y darparw(y)r gofal plant o’ch dewis i sicrhau ei fod wedi cofrestru i fod yn ddarparwr y Ddarpariaeth Gofal Plant ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gan nad oes modd cadw’r ffurflen gofrestru yma, gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth ganlynol cyn i chi ddechrau a bod y dogfennau i gyd yn cael eu cadw fel naill ai PDF neu fel ffeil llun cyn dechrau gwneud y cais.

Ar ôl cael cadarnhad o’r cynnig bydd gofyn i rieni wneud cais i’w darparwr dewisol am oriau gofal plant.

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyswllt

Tîm Darpariaeth Gofal Plant Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 03000 628628

Chwilio A i Y