Cynnig Gofal Plant Cymru
Mae’r Ddarpariaeth Gofal Plant ar gyfer Cymru yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth ac addysg gynnar ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant tair i bedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, 39 wythnos yn ystod y tymor a hyd at naw wythnos o ddarpariaeth gwyliau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn prosesu pob cais ar gyfer y Ddarpariaeth Gofal Plant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gwybodaeth i rieni
Os oes gennych chi blentyn 3 neu 4 mlwydd oed rydych yn gymwys i wneud defnydd o 10 awr yr wythnos o addysg gynnar ar gyfer eich plentyn yn ystod tymhorau ysgol (weithiau’n cael ei adnabod fel Meithrinfa Cyfnod Sylfaen).
Gwybodaeth i ddarparwyr
Os ydych yn ddarparwr gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn gofrestredig â’r CIW, gallwch gael cyllid gan eich awdurdod lleol ar gyfer plant 3 a 4 mlwydd oed cymwys sy’n cael gwneud defnydd o’r cynnig yn eich lleoliad.