Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda phobl ifanc 11 i 25 oed i’w datblygu ar lefel bersonol, gymdeithasol ac addysgiadol drwy amrywiaeth o gyfleoedd. Rydym yn gwneud hyn mewn cymunedau drwy brofiadau cyfranogi, ac rydym yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad er mwyn galluogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn unigryw.

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnig cefnogaeth gyffredinol, ac, i’r rhai sydd wedi eu hadnabod i fod yn fregus, cefnogaeth wedi’i thargedu.

Mae ein gweithwyr ieuenctid yn weithlu sydd wedi cymhwyso ac ymrestru’n genedlaethol. Mae hawliau plant a Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant wrth wraidd yr holl waith rydym yn ei wneud, gydag ymgynghoriadau rheolaidd ac ymarferion ymgysylltu yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn ganolbwynt i unrhyw waith gwneud penderfyniadau.

Mae ein hymgysylltu gyda phobl ifanc yn digwydd mewn canolfannau ieuenctid, clybiau ieuenctid, ar y stryd, ac o fewn cymunedau lleol, Rydym hefyd yn ymgysylltu mewn gofodau digidol, gan gynnwys ein ‘bot siarad’ ar-lein a gallwch ddilyn ein hamrywiol sianeli cyfryngau cymdeithasol (@bcbcys) i ddysgu mwy.

Rydym ar y Cyfryngau Cymdeithasol!

Instagram: @bcbcys

Facebook: @BCBCYS 

X/Twitter: @bcbcys

Cymerwch ran mewn gweithgareddau, gemau a sesiynau galw heibio wythnosol er mwyn helpu i fynd i’r afael â diflastod ac unigedd.
Mae ein tîm cymorth ieuenctid wrth law i sgwrsio â chi ar-lein rhwng 10am - 5pm, Llun – Gwener.
Rydym yn darparu cymorth iechyd emosiynol, llesiant a sgiliau bywyd i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n byw yn sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Ydych chi mewn perygl o ddod yn ddigartref? Gallwn gynnig cefnogaeth i chi, yn cynnwys cymorth teulu a chymorth tenantiaeth.
Cymorth i bobl ifanc yn y fwrdeistref sirol, yn cynnwys llunio CV proffesiynol yn rhad ac am ddim, cyrsiau sy’n gysylltiedig â gwaith a llawer mwy!
Rydym yn gwerthfawrogi eich barn, yn enwedig wrth sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig yn bodloni eich anghenion.
Ymunwch â ni yn y Ganolfan Ieuenctid Mynediad Agored, y lle gorau i fod i bob un ohonoch chi bobl ifanc gwych sy'n 11 a throsodd!

Cyswllt

Cynnal Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 815146

Chwilio A i Y