Iechyd Emosiynol Pobl Ifanc
Rydym yn darparu cymorth iechyd emosiynol, llesiant a sgiliau bywyd i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n byw yn sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r tîm yn cynnwys Gweithwyr Sgiliau Bywyd Pobl Ifanc a Gweithwyr Cymorth Seicoleg.
Gweithwyr Sgiliau Bywyd Pobl Ifanc
Gweithwyr Sgiliau Bywyd Pobl Ifanc – darparu cymorth un i un, yn ogystal â gwaith grŵp lle bo hynny’n briodol.
- Rheoli emosiynau’n briodol e.e. darparu arfau a thechnegau i reoli gorbryder a gwylltineb
- Meithrin Hyder/Hunan-barch
- Gwella gwytnwch
- Gwella hwyliau isel
- Hyfforddiant Teithio
- Ffyrdd iach o fyw
- Cymhelliant
- Perthnasoedd iach
- Sefydlu nodau
Gweithwyr Cymorth Seicoleg
Mae Gweithwyr Cymorth Seicoleg yn darparu cymorth un i un.
Maent yn darparu cymorth seicolegol mwy manwl yn ymwneud ag iechyd meddwl ac ymyriadau seicolegol neilltuol.
Mae’r ymyriadau’n seiliedig ar CBT.
- Gwella hwyliau isel
- Rheoli emosiynau’n briodol e.e. gorbryder a gwylltineb – ymchwilio sbardunau, strategaethau, herio meddyliau negyddol
- Gwella hyder a hunan-barch
- Gwella gwytnwch
- Cymhelliant
Rydym hefyd yn cyfeirio at wasanaethau eraill os bydd angen ac yn atgyfeirio i wasanaethau priodol eraill.
Gwneud cais am gefnogaeth
I wneud cais am gefnogaeth, llenwch ffurflen a’i dychwelyd at: EarlyYearsandYoungPeople@bridgend.gov.uk
Cymorth iechyd meddwl y GIG
Os yw’n argyfwng neu os oes angen cymorth brys arnoch:
- Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl, ffoniwch 999 neu ewch i’r adran Ddamweiniau ac Achosion Brys nawr
- Os oes angen cymorth brys arnoch er budd eich iechyd meddwl, cysylltwch i gael cymorth gan y GIG 111 ar-lein neu ffoniwch 111.