Drwy bartneriaeth â Grace & Green, darparwr blaenllaw cynhyrchion mislif ecogyfeillgar, gall trigolion o dan 25 oed yn y fwrdeistref sirol gael cynhyrchion yn uniongyrchol i’w cartref neu eu codi o fan casglu.
Iechyd a lles
Cefnogaeth iechyd a lles ar gyfer pobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
- lles emosiynol – cefnogaeth un i un a grŵp
- sgiliau bywyd
- rheoli iselder / hwyliau drwg
- delio â gorbryder
- meithrin hyder / hunan-barch
- sesiynau gwybodaeth am gamfanteisio’n rhywiol a meithrin at ddibenion rhywiol
- perthnasoedd iach / afiach
- ymddygiad o gymryd risg
Stondinau Dewis a Dethol Urddas y Mislif
Yn galw ar bawb 11 i 25 oed, mae’n amser i chi fynd amdani a bachu nwyddau gwych oherwydd mae popeth ar ein stondinau Dewis a Dethol Urddas y Mislif ni ar gael AM DDIM! Mae'r stondinau'n llawn amrywiaeth o gynhyrchion mislif untro ac ailddefnyddiadwy ar gyfer y gymuned.