Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hawliau a Chyfranogiad Plant

Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael eu clywed!

Rydym yn darparu gweithdai addysgol diddorol ar ddeall eich hawliau. Mae modd eu cyflwyno mewn ysgolion, canolfannau ieuenctid ac allan yn y gymuned. Mae modd i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol gael mynediad atynt.

Mae ein gweithdai yn cynnwys gweithgareddau a gemau rhyngweithiol hwyliog i helpu pobl i ddeall eu hawliau ymhellach. Er enghraifft, adeiladu Lego, chwarae rôl, cwisiau a llawer mwy.

Cynlluniwyd yr holl weithdai gyda chymorth ein Cyngor Ieuenctid i sicrhau eu bod yn ddifyr ac yn gyfeillgar i bobl ifanc.

Archebu gweithdy

Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu Gweithdy Hawliau a Chyfranogiad Plant gyda’n tîm, cysylltwch:

Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r corff hwn yn rhoi llais i bobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Os byddwch yn dod ar draws mater pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc yn yr ardal, fe awn ati i frwydro i fynd i’r afael ag ef.

Instagram: @bridgendyouthcouncil1

Facebook: The Bridgend Youth Council

X/Twitter: @BridgendYouthC

Chwilio A i Y