Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r corff hwn yn rhoi llais i bobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Os ydych yn dod ar draws mater pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc yn yr ardal, byddwn yn brwydro i fynd i’r afael ag ef.

Mae Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys:

  • Maer Ieuenctid
  • Dirprwy Faer Ieuenctid
  • Aelodau o’r Cabinet
  • Cynghorwyr Ieuenctid

Mae’r corff wedi’i sefydlu gan bobl ifanc lleol ac yn cael ei redeg ganddynt. Mae’n endid cwbl ar wahân i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Aelodau o’r Cabinet Ieuenctid

  • Eco a Chynaliadwyedd - Gwag ar hyn o bryd
  • Llesiant a Chydraddoldeb Ieuenctid – Gwag ar hyn o bryd
  • Addysg – Gwag ar hyn o bryd
  • AS Ieuenctid y DU ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr – Aspen Whiting
  • Aelod Seneddol Ieuenctid Cymru dros Ben-y-bont ar Ogwr – Gwag ar hyn o bryd

Rydym ar y Cyfryngau Cymdeithasol!

Instagram:
@bridgendyouthcouncil1

Facebook:
The Bridgend Youth Council

X/Twitter:
@BridgendYouthC

Maer Ieuenctid: Ellie O’Connell

Ein Maer Ieuenctid ar hyn o bryd yw Ellie O’Connell o YGG Llanhari.

Blaenoriaethau Ellie yw:

  1. Iechyd Meddwl a Chymorth Ieuenctid
  2. Yr Amgylchedd, Eco a Chynaliadwyedd
  3. Cyfleoedd Cymdeithasol i Bobl Ifanc

Dirprwy Faer Ieuenctid: Daisy Davies

Daisy Davies o Ysgol Gyfun Brynteg yw’r Dirprwy Faer Ieuenctid.

Blaenoriaethau Daisy yw:

  1. Addysg Wleidyddol
  2. Cyfleoedd Cyfartal i Bobl Ifanc
  3. Cynaliadwyedd Lleol mewn Addysg

Rhoi gwybod am fater

Os byddwch yn dod ar draws mater pwysig sy’n effeithio ar ieuenctid yr ardal, byddwn yn brwydro i wneud iddo ddigwydd.  I godi unrhyw fater neu i leisio barn am eich ardal leol, cysylltwch â:

Beth sy'n digwydd yn y Cyngor Ieuenctid?

Rydym yn cynnal cyfarfodydd y Cyngor Ieuenctid yn rheolaidd dwywaith y mis - un cyfarfod ar-lein ac un cyfarfod wyneb yn wyneb yn y swyddfeydd dinesig ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae gwesteion arbennig o sefydliadau eraill a gweithwyr proffesiynol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gwahoddiad i’r cyfarfodydd. Mae’r cyfarfodydd yn cynnwys ymgynghoriadau a chynllunio ymgyrchoedd. Mae pawb yn cael cyfle i gadeirio cyfarfodydd y Cyngor Ieuenctid ac i gymryd cofnodion. 

A ydych yn ansicr am ymuno â’r Cyngor Ieuenctid? Dewch draw i un o’n digwyddiadau cymdeithasol i gwrdd ag aelodau’r cyngor mewn ffordd anffurfiol.

Mae’r cyngor ieuenctid yn cyfarfod unwaith y mis i fwynhau digwyddiad cymdeithasol. Dim cyfarfodydd, ymgynghoriadau nag agendau, yn hytrach hwyl a’r cyfle i sgwrsio.

Rydym yn rhoi cyfle i bawb gynnal digwyddiad cymdeithasol ac i rannu sgil. Er enghraifft: noson gemau, celff a chrefft a chymaint mwy!

Roedd y Cyngor Ieuenctid eisiau dylunio ymgyrch i addysgu eu cyfoedion ar y pynciau sy’n bwysig iddyn nhw. Er enghraifft: iechyd meddwl, newid yn yr hinsawdd ac addysg wleidyddol (tair prif flaenoriaeth y Cyngor Ieuenctid).

Mae aelodau'r cyngor yn dod at ei gilydd i ddysgu am y pwnc ac yna'n cynllunio gweithdai hwyliog a diddorol i'w cyflwyno i'w cyfoedion, eu hathrawon, rhieni a chymuned Pen-y-bont ar Ogwr.

Diddordeb mewn bod yn addysgwr cyfoedion? Cysylltwch â ni i fod yn rhan o’r ymgyrch addysg cyfoedion!

Dwi eisiau bod yn rhan o’r Cyngor Ieuenctid!

Mae’r broses recriwtio ar gyfer y Cyngor Ieuenctid yn syml iawn:

  • Mae Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn agored i bob person ifanc 11-25 oed sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr neu sy’n mynd i’r ysgol yn y sir.
  • Ar hyn o bryd, mae gennym bobl ifanc o bob rhan o Ben-y-bont ar Ogwr o wahanol ysgolion a cholegau neu’n cael eu haddysgu gartref.
  • Rydym yn cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Cynhelir ein cyfarfod wyneb yn wyneb ar y trydydd dydd Mercher o bob mis yn y Swyddfeydd Dinesig ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ddod yn aelod o’r cyngor, cysylltwch â:

Straeon o’r Cyngor Ieuenctid

Roedd M yn aelod o’r Cyngor Ieuenctid ac ymgeisiodd i fod yn Faer Ieuenctid.

Cafodd ei hethol a gwasanaethodd fel Maer Ieuenctid am ei thymor. Cymerodd ran mewn nifer o fentrau, megis gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac arwain ar fentrau Urddas Mislif ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae M bellach yn y Brifysgol yn astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Cyrhaeddodd rownd derfynol gwobr Actifydd Ifanc y Flwyddyn yn 2022!

Mae hi’n edrych ymlaen at ddilyn gyrfa yn y Gyfraith.

G oedd ein Dirprwy Maer Ieuenctid ac mae wedi ennill Gwobr Dinasyddiaeth y Maer.

Mae hyn oherwydd ei fuddugoliaeth anhygoel yn ennill Gwobr fawreddog Diana, am ei waith cymunedol rhagorol yn datblygu a darparu Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Traws i bobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol ledled De Cymru ac yn helpu i arwain ar greu Grŵp Ieuenctid YPOP LGBTQIA+ ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Sefydlwyd YPOP ar ôl canfod angen ymhlith pobl ifanc yn ystod cyfnodau clo’r pandemig.

Gwnaethom ddatblygu Lle Diogel LGBTQIA+ ar-lein i Bobl Ifanc gael ymlacio a chwrdd â phobl ifanc ledled y sir. Mae ein sesiynau’n cynnwys siaradwyr gwadd, gweithdai, nosweithiau Cosplay a Nosweithiau Cwis.

Mae aelodau wedi bod yn gweithio ar brosiectau fel datblygu eu Polisi LGBTQIA+ a’u Polisi Ymwybyddiaeth Traws eu hunain a phrosiect celf gymunedol. Tynnwyd sylw at y grŵp gan Sarah Murphy AS yn y Senedd fel man diogel y mae mawr ei angen ac i’w groesawu ar gyfer pobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Rydym yn cyfarfod yn wythnosol wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Ieuenctid, Neuadd Bytholwyrdd, bob nos Lun rhwng 4pm a 6pm; ar gyfer pobl ifanc 12-17 oed.

Chwilio A i Y