Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cefnogaeth gyda Thai

Yn darparu cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddatblygu a meithrin ystod o sgiliau i wella annibyniaeth, nawr ac ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â darparu cymorth i fyw’n annibynnol yn llwyddiannus.   

Atal

Gall byw yn annibynnol fod yn heriol. Gallwn ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i’ch helpu i wybod pa drefniadau byw sydd orau ar eich cyfer, archwilio opsiynau tai a rheoli a chynnal tenantiaeth.

  • Opsiynau tai
  • Problemau tai - cael eich gorfodi i adael eich cartref? A yw eich cartref yn gartref addas? Yn wynebu cael eich troi allan?
  • Talu biliau
  • Rheoli cyllidebau a dyledion
  • Rheoli cartref
  • Rheoli tenantiaeth
  • Budd-daliadau a grantiau
  • Lle i gael cymorth
  • Delio â gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol
  • Cofrestru gyda gwasanaethau
  • Gwella perthnasau teuluol
Ffôn: 01656 815146
Cefnogaeth tai ar gyfer pobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Paratowch

Nid ydych fyth yn rhy ifanc i wella eich sgiliau hunan ofal a byw’n annibynnol. Gallwn eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau o ran:

  • Gwella gwydnwch
  • Gwella llesiant
  • Rheoli emosiynau mewn modd priodol
  • Cadw’n ddiogel a gofalu am eich hun
  • Gosod amcanion a datrys problemau
  • Y cartref a’r teulu
  • Hyfforddiant rheoli arian a bancio
  • Hyfforddiant teithio
  • Mynediad at y gymuned
Ffôn: 01656 815146

Chwilio A i Y