Canolfannau Ieuenctid
Dyma gyflwyno Strafagansa Canolfan Ieuenctid Mynediad Agored! Hei, bobl ifanc gwych y dref! Ydych chi'n barod i ddechrau ar daith llawn cyffro, creadigrwydd a hwyl? Dyma'r lle i chi, achos mae gennym ni rywbeth epig ar eich cyfer chi!
Ymunwch â ni yn y Ganolfan Ieuenctid Mynediad Agored, y lle gorau i fod i bob un ohonoch chi bobl ifanc gwych sy'n 11 a throsodd! Dyma gipolwg bach ar beth fydd ar gael ei chi yn ystod ein sesiynau:
- Coginio: Rhyddhewch y MasterChef mewnol sydd ynoch chi a rhowch gynnig ar greu danteithion blasus.
- Pŵl a Thennis Bwrdd: Byddwch yn barod am ychydig o gystadlu cyfeillgar a dangos eich sgiliau ar y byrddau ffelt a phing-pong.
- Gwallt a Harddwch: Dysgwch am y cynghorion harddwch diweddaraf, steil gwallt a thechnegau colur. Amser am steil gwallt glam - neu arbrofi gyda rhywbeth ychydig bach yn ffynci!
- Cerddoriaeth: Teimlwch y rhythm a chreu trawiadau cofiadwy gyda'n sesiynau cerdd. Mae yna seren roc ym mhob un ohonoch!
- Celf a Chrefft: Gadewch i'ch creadigrwydd ddisgleirio gyda chelf a chrefft. Beth am baentio, darlunio a gwneud gwaith crefft nes y byddwch wedi creu eich campwaith gorau erioed.
- Ymlaciwch: Wedi awr yn llawn cyffro, mae'n amser ymlacio a rhoi traed lan yn eich cwtsh cyfforddus. Cyfle i ddal fyny gyda ffrindiau, darllen neu bod yn brysur yn gwneud dim!
Canolfan Ieuenctid Symudol
Rydym yn eich gwahodd i'n gofodau cyfeillgar, diogel ar hyd a lled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, lle gall pobl ifanc gysylltu gydag eraill, ymlacio a mwynhau gweithgareddau diddorol.
- Arweiniad gan Weithwyr Ieuenctid Cymwysedig: Mae ein tîm profiadol a chyfeillgar yma i'ch cefnogi ac i gysylltu â chi.
- Consolau Teledu a Chwarae Gemau: Mwynhewch adloniant mewn amgylchedd ymlaciol.
- Gofodau Cyfforddus: Ymlaciwch mewn amgylchedd cynnes, croesawgar wedi'i gynllunio i wneud i chi deimlo mor gyfforddus â phosib.
- Ystod Amrywiol o Weithgareddau: Cymerwch ran mewn amrywiaeth o gemau, gweithgareddau a phrofiadau wedi'u teilwra i'ch diddordebau chi.
Ar Facebook, Instagram ac X cewch y wybodaeth ddiweddaraf ar ein lleoliadau a’n digwyddiadau diweddaraf.
Golygyddion Ifanc
Bob dydd Iau, 4.30pm - 6.30pm
Neuadd Evergreen, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4AD
Rhyddhewch eich creadigrwydd yn ein grŵp cymunedol rhyngweithiol lle gallwch ennill sgiliau gwerthfawr. Rhowch gynnig ar ddylunio, cyfryngau cymdeithasol, marchnata, adeiladu gwefan a mwy!
Nod ei grŵp sy'n cael ei arwain gan bobl ifanc yw newid y ffordd y mae'r gwasanaethau ieuenctid yn cysylltu'n ddigidol gyda phobl ifanc.
Welwn ni chi yno am anturiaethau creadigol anhygoel!
Grŵp Ieuenctid YPOP LHDTC+
Nosweithiau Llun o 4pm - 6pm (pobl ifanc 11-17 oed) / 6.15pm - 8pm (pobl ifanc 18 - 25 oed)
Neuadd Evergreen
Rydym ni'n cynnal nosweithiau cwis, sesiynau galw heibio Sgwrs ac Ymlacio, nosweithiau thematig ac mae gennym ni siaradwyr gwadd i ddarparu hyfforddiant a gweithdai.
Mae YPOP yn Lle Diogel i bobl ifanc sydd eisiau gwneud ffrindiau newydd, cymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau a derbyn cefnogaeth gan ein tîm Cefnogi Ieuenctid os oes angen.
Clwb Dawel (Atgyfeiriad yn unig)
Dewch o hyd i’ch criw hamddeno - Chwilio am le hamddenol i wneud ffrindiau newydd?
Ymunwch â ni mewn amgylchfyd heddychlon ble gallech gyfarfod â phobl newydd sy’n mwynhau naws ddistawach. Os ydych yn mwynhau darllen, celf a chrefft, gemau bwrdd neu ymlacio â chwmni da, yna dyma’r lle i chi.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: youthsupport@bridgend.gov.uk
Neuadd Evergreen
Dyddiau Mawrth a Mercher o 5.15pm - 7.15pm
- Cystadleuaeth Pêl-fasged: Ewch amdani i anelu at y rhwyd a dangos eich symudiadau
- Cystadlaethau Pŵl: Rhowch y peli yn eu lle a chystadlu i ennill
- Bwrdd Gemau Infinity: Heriwch eich ffrindiau i oriau bwygilydd o hwyl a gemau
- Gemau PS5: Beth am gystadlu ar y consol diweddaraf
- Dawns a Charioci: Dewch draw i ddawnsio neu i ganu nerth eich pen i'ch hoff gerddoriaeth
- Danteithion o'r Siop: Cyfle i gael gafael ar snac neu ddau i gadw nerth
- Hwyl Ffitrwydd: Amser symud efo heriau ffitrwydd ffantastig
- Gemau Bwrdd i Bawb: Mwynhewch y gemau bwrdd clasurol - a'r rhai newydd
A dim ond y dechrau yw hynna! Dewch draw am chwa o hwyl a chyffro bob wythnos.
Clwb Ieuenctid CCYD
Bob dydd Mawrth o 5pm - 7pm
- Ymgollwch yn eich Creadigrwydd: Plymiwch i ganol llond lle o hwyl, gweithgareddau creadigol a gadael i'ch dychymyg fynd yn rhemp!
- Mwynhewch Gemau Pŵl Cynhyrfus: Heriwch eich ffrindiau a dangos eich sgiliau!
- Cynyddwch eich Ffitrwydd yn y Gampfa: Cewch fynediad i'n hardal ffitrwydd a champfa i gadw i symud a chadw'n heini!
- Beth am gael blas ar rai o'n Danteithion: Ewch amdani i fachu ambell i snac o'r siop!
- Crëwch Atgofion Bythgofiadwy: Treuliwch amser yng nghwmni eich ffrindiau a gwneud i bob eiliad gyfrif!
A'r peth gorau am hyn i gyd? Byddwch yn derbyn cefnogaeth gan ein gweithwyr ieuenctid proffesiynol, sydd yno i wneud yn siŵr eich bod yn cael amser gwych ac i ddarparu arweiniad pan mae angen.
Canolfan Ieuenctid Pencoed
Bob dydd Mawrth a dydd Iau o 5pm - 7pm
- Bwydydd Blasus: Beth am wledda ar ddanteithion o'n cegin!
- Byrbrydau at ddant pawb: Ewch amdani a chael gafael ar eich ffefrynnau o'r siop!
- Gemau Fideo: Plymiwch i mewn i sesiynau gemau cyfrifiadur epig!
- Pŵl: Heriwch eich ffrindiau i gêm gyffrous o pŵl.
- Offer Trin Gwallt: Arbrofwch gyda steiliau newydd ac ymroi i'ch creadigrwydd!
A chofiwch, byddwch yn derbyn cefnogaeth gan ein gweithwyr ieuenctid proffesiynol, sy'n barod i wneud yn siŵr eich bod yn cael amser gwych ac i ddarparu arweiniad pan mae angen.
Canolfan Ieuenctid Cynffig
Bob dydd Mawrth a dydd Iau o 5pm - 7pm
- Cicio Pêl yn y Neuadd Chwaraeon: Dangoswch eich sgiliau pêl-droed a mwynhau'r gêm!
- Gemau Xbox: Plymiwch i ganol sesiynau gemau cyfrifiadur epig!
- Gorsaf Harddwch: Beth am bampro eich hun a bod yn glam!
- Gemau Hwyl: Heriwch eich ffrindiau a chael hwyl!
- Siop Ddanteithion Flasus: Bachwch ychydig o snaciau blasus i gadw eich nerth!
Ymlaciwch mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar, a chofiwch, mae ein gweithwyr ieuenctid cyfeillgar yma i gynnig cyngor ac arweiniad pryd bynnag y byddwch ei angen!
Canolfan Ieuenctid Bracla
Bob dydd Gwener o 6.15pm - 8.15pm
- Pencampwyr Pêl-droed: Sgoriwch bob tro a dangos eich sgiliau!
- Celf a Chrefft Creadigol: Mwynhewch greu crefftau i fwydo'r dychymyg!
- Cystadlaethau Gemau Bwrdd: Beth am gystadlu gyda'ch ffrindiau a dod yn feistr ar y gemau!
- Cerddoriaeth a Churiadau: Ymgollwch yn y tiwns diweddaraf a gadael i'r rhythmau eich symud!
- Danteithion Blasus o'r Siop: Llond bol o ddanteithion - a hwyl!
- Cysylltu gyda Ffrindiau: Ymlacio, chwerthin a chreu atgofion newydd!
- Hoci Aer: Profwch eich ymatebion a brwydro i fuddugoliaeth!
Peidiwch â cholli cyfle i gael Gwener gwallgof llawn hwyl - welwn ni chi yno!