Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Addysg a Chyflogaeth

Cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n wynebu heriau o fewn addysg, cyflogaeth, neu hyfforddiant.

Nod ein hystod eang o wasanaethau yw grymuso a rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i bobl ifanc i oresgyn heriau a chyflawni nodau personol.

“Ein nod yw eich cefnogi ar eich taith at lwyddiant. Rydym yn credu, gyda’r arweiniad, y sgiliau a’r gefnogaeth gywir, gallwch oresgyn unrhyw rwystrau a sicrhau swydd eich breuddwydion”

Y cymorth sydd ar gael

Mae ein clybiau gwaith yn darparu amgylchedd cefnogol i helpu i wella eich sgiliau cyflogadwyedd.

Bydd ein gweithwyr ieuenctid cymwys yn cynnig cymorth personol i fynd i’r afael â’r amrywiol rwystrau y gallech fod yn eu hwynebu.

Boed yn faterion tai, budd-daliadau, ysgrifennu CV, chwilio am waith, trafnidiaeth, llesiant, camddefnyddio sylweddau, neu unrhyw heriau eraill, rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.

Rydym yn deall pwysigrwydd iechyd meddwl a llesiant. Mae ein sesiynau Ymlacio a Sgwrsio yn creu lle diogel i chi archwilio mecanweithiau ymdopi, i reoli straen, a datblygu meddylfryd cadarnhaol.

Gallwn helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y gweithle trwy ein rhaglenni profiad gwaith a threial gwaith. Mae'r cyfleoedd hyn yn darparu profiad ymarferol gwerthfawr mewn amgylcheddau gwaith go iawn, gan gynyddu eich siawns o sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol.

Cymwysterau rhad ac am ddim i wella eich set sgiliau a chynyddu eich cyflogadwyedd.

Manteisiwch ar gyrsiau fel:

CSCS, Hylendid Bwyd, Codi a Chario, Diogelwch Tân, Cymorth Cyntaf, Gwasanaethau Cwsmer, Iechyd a Diogelwch, a mwy.

Swydd y mis

Cynorthwyydd Arlwyo Aml Sgiliau

Lleoliad: Ysbyty Tywysoges Cymru

Mae Disgrifiad Swydd a Manyleb Person llawn i’w cael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol CwmTaf Morgannwg:

Dyddiad cau: 23 Ionawr 2025

Ble i ddod o hyd i ni

Neuadd Evergreen

Dydd Llun i ddydd Gwener

Canolfan Byd Gwaith Maesteg

Dydd Mawrth, 10am - 3pm

Canolfan Byd Gwaith Porthcawl

Dydd Llun, 10am - 3pm

Canolfan Bywyd y Pîl

Dydd Mawrth, 10am - 3pm

Chwilio A i Y