Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dewch i gymryd rhan fel Gwirfoddolwr

Ydych chi'n frwd dros roi cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae?

Mae chwarae plant yn beth hyfryd i fod yn rhan ohono, ac mae helpu i hwyluso chwarae plant sy'n arwain at ddatblygu nifer o sgiliau bywyd yn wirioneddol hudolus.

Trwy chware, mae plant yn ei ddysgu am y byd ac amdanynt eu hunain. Maent hefyd yn dysgu'r sgiliau y maent eu hangen ar gyfer astudio, gweithio a pherthnasau megis: hyder, hunan-werth, gwytnwch, rhyngweithio, sgiliau cymdeithasol, bod yn annibynnol, chwilfrydedd, ymdopi gyda sefyllfaoedd heriol a llawer mwy.

Mae hi hefyd yn gred gyffredin bod plant yn bwysig i blant er mwyn iddynt gynnal ymdeimlad o gymuned. I oedolion hefyd, gall chwarae plant helpu i adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol da, gan ei fod yn eu darparu gyda chyfleoedd i ryngweithio gyda'r naill a'r llall mewn llefydd lle mae plant yn chwarae.

Buddion gwirfoddoli

  • Mae gan wirfoddoli effaith ystyrlon, bositif ar y gymuned.
  • Gall gwirfoddoli helpu i ddatblygu diddordebau a gweithgareddau amser hamdden newydd
  • Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gael profiad bywyd
  • Mae gwirfoddoli yn dod ag amrywiaeth eang o bobl at ei gilydd o bob cefndir a chyfeiriad
  • Mae gwirfoddoli yn y pendraw ynghylch helpu eraill a chael effaith ar les pobl
  • Mae rhoi o'ch amser fel gwirfoddolwr yn eich helpu i wneud ffrindiau newydd, ehangu eich rhwydwaith a rhoi hwb i’ch sgiliau cymdeithasol
  • Gall gwirfoddoli roi hwb iach i'ch hunanhyder, eich hunan-werth a boddhad gyda bywyd.
  • Mae gwirfoddoli yn rhoi cyfle i chi ymarfer sgiliau pwysig sy'n cael eu defnyddio yn y gweithle, megis gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau, cynllunio prosiectau, rheoli tasgau a sgiliau trefnu.
  • Mae gwirfoddoli yn rhywbeth gwych i'w roi ar eich CV neu gais coleg.

Sgiliau, profiad, diddordebau a gwybodaeth angenrheidiol

  • diddordeb mewn chwarae a datblygiad plant
  • boddhad o ddarparu cyfleoedd i chwarae plant
  • y gallu i reoli chwarae gyda phlant
  • sgiliau cyfathrebu clir
  • gallu gweithio mewn tîm
  • bod yn ddibynadwy a'r gallu i wneud ymrwymiad rheolaidd
  • sgiliau i helpu gosod a chlirio offer a deunyddiau ar ddiwedd sesiynau
  • bod ag agwedd groesawgar tuag at blant a theuluoedd

Cyfleoedd i wirfoddoli

Er mwyn gweld rhestr lawn o'r swyddi gwag, ewch i wefan BAVO. 

Dewch i wirfoddoli gyda Halo Leisure

Mae gwirfoddoli gyda Halo yn gyfle i chi roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned! Mae Halo yn elusen gofrestredig sydd â’r nod o wneud gwahaniaeth i fywydau eraill yn ein cymuned leol, nid yn unig drwy weithgarwch corfforol ond hefyd drwy greu cyfeillgarwch, cefnogi gweithgareddau cymdeithasol a chefnogi llesiant meddwl pobl.

Chwilio A i Y