Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

PODIAU Gweithgareddau

Mae'r Pod Gweithgaredd yn rhaglen chwarae sydd wedi'i chynllunio ar gyfer disgyblion cyfnod sylfaen a CA1. Mae ethos y Pod Gweithgareddau yn seiliedig ar y gred bod chwarae yn hanfodol i blant ac mae ganddo ran allweddol i'w chware yn natblygiad sgiliau corfforol, cymdeithasol, emosiynol a chreadigol.

Darperir ysgolion gyda chynhwysydd llongau yn llawn o adnoddau ailgylchadwy (rhannau rhydd) a 'Poddely', ac mae athrawon a staff o bob ysgol yn derbyn hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r rhaglen Pod Gweithgareddau ar gyfer chwarae.

Y gobaith yw y bydd y Pod Gweithgareddau yn dod yn brosiect cynaliadwy, wedi'i sefydlu sy'n cefnogi ysgolion i ddarparu cyfleoedd i chwarae, chwaraeon ac addysg gorfforol o safon i ddisgyblion oddi mewn i'r cwricwlwm ac oddi allan.

Rydym yn gwybod bod canlyniadau darparu cyfleoedd chwarae rhannau rhydd o fudd mawr i'r plant a chymuned yr ysgol.

Felly, mae codi ymwybyddiaeth ar gyfer y gymuned ysgol gyfan yn hanfodol i lwyddiant rhoi chwarae rhannau rhydd ar waith.  Mae hyn yn gofyn am i'r uwch dîm rheoli ystyried amrywiol agweddau megis: gwneud newidiadau i drefniadau o ddydd i ddydd, ysgrifennu asesiadau buddion risg a pholisïau chwarae drwy sicrhau cyfranogiad yr holl randdeiliaid yng nghymuned yr ysgol. 

Mae cyfathrebu agored sy'n cael ei rannu yn hanfodol bwysig ar bob lefel o'r ysgol, o lywodraethwyr i rieni, er mwyn creu'r newid hwn mewn diwylliant yn llwyddiannus.

Mae rhoi rhannau rhydd ar waith yn golygu bod pawb yng nghymuned yr ysgol yn gysylltiedig ag o.  Mae'r broses wedi'i chynllunio fel ei bod yn gallu addasu i bob ysgol unigol, ond mae angen rhyw gymaint o fewnbwn gan wahanol randdeiliaid er mwyn ei wneud yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy.

Sylwais fod y disgyblion yn fwy hapus ac yn chwarae gyda phlant na fyddent fel arfer yn chwarae â hwy. Roedden nhw'n cymryd eu tro ac roedd hi'n hyfryd eu gweld yn cyfathrebu gyda'i gilydd ac yn dangos beth i'w wneud.

Athro Ysgol Gynradd

Beth yw rhannau rhydd?

Rhannau rhydd, yn syml, yw casgliad o ddeunyddiau yn y lleoliad chwarae. Gall y rhain fod yn ddarnau o bren, cynhwysyddion, teganau neu eitemau y gellir eu symud o gwmpas, eu cario, eu rholio neu ailosod er mwyn creu strwythurau a phrofiadau newydd a diddorol. Gall rhannau rhydd fod wedi'u gwneud gan ddyn, neu'n naturiol, megis priciau, cerrig a dail. Gall rhannau rhydd hefyd fod wedi eu creu'n benodol, er enghraifft y 'Poddely'.

Mae plant a phobl ifanc yn mwynhau chwarae gyda rhannau rhydd gan eu bod yn gallu chwarae gyda nhw mewn gwahanol ffyrdd am gyfnodau byr neu ddyddiau ar y tro. Gallant ddewis beth i'w wneud gyda'r eitemau, sef yr hyn rydyn ni'n eu galw yn adnoddau penagored. Mae gan rai rhannau chwarae rhydd fwy o werth chwarae nag eraill a gall amrywiaeth o eitemau sy'n gweithio'n dda gyda'i gilydd gynnig nifer anferthol o gyfleoedd chwarae.

Mae cyflwyno rhannau rhydd i iard chwarae yr ysgol yn galluogi plant i fod yn greadigol yn eu chwarae, yn syml gan nad ydynt yn cael eu cyfarwyddo a'u bod yn annog ystod o wahanol fathau o chwarae.

Mae'r sgiliau maent wedi eu hennill o ddefnyddio'r pod yn aruthrol ac rwy'n credu bod cael y pod gweithgareddau wedi gwneud inni sylweddoli mai nid dim ond rhywbeth sydd ei angen amser chwarae yw hyn, ond ei fod hefyd yn rhywbeth y gallem ei ddefnyddio yn rhan o wersi'r cwricwlwm.

Athro Ysgol Gynradd

Buddion cael rhannau rhydd

  • Dysgu drwy Chwarae - Gall rhannau rhydd wella'r amgylchedd ffisegol a dynol o fewn ysgolion, gan greu gofodau ysgogol a rhyngweithiol lle gall plant ddysgu drwy chware.

  • Sgiliau Hanfodol - Mae chwarae gyda rhannau rhydd yn annog amrywiol fathau o chwarae a all olygu canolbwyntio am amser hir, profiadau creadigol, adeiladu tîm, cydweithredu, cyfathrebu effeithiol, cynyddu rhannu a negodi, datrys problemau a dysgu drwy brofiad.

  • Rheoli Risg a Hunanreoli - Mae rhannau rhydd yn annog pant i reoli eu lefel eu hunain o risg a dysgu sut i ddatblygu'r gallu i asesu risgiau eu hunain.

  • Cynhwysiant - Mae rhannau rhydd yn darparu amgylchedd sy'n galluogi plant i chwarae mewn ffordd o'u dewis hwy. Gall hyn fod ar eu pen eu hunain, mewn grwpiau mawr neu fach, neu gyda phlant na fyddent, o bosib, yn chwarae gyda hwy fel arfer.

    Yn aml, mae plant sydd wedi eu hynysu'n gymdeithasol, neu blant a all fod wedi cael eu heithrio o chwarae plant eraill, yn cael eu bod yn gallu ymuno yn y chware mewn ffordd sy'n llawer mwy priodol iddynt hwy.

Mae'r cymorth gan AYPD wedi bod yn anhygoel. Fel perchennog grŵp chwarae, rwy'n cadw costau yn fforddiadwy i deuluoedd tra ar yr un pryd yn ceisio fy nghorau glas i roi'r safon uchaf o ran gofal ac addysg. Alla i wir ddim ei roi o mewn geiriau pa mor lwcus ydyn ni i gael y fraint o fod â'r offer gwerth chweil yma. Diolch

Meithrinfa Standing to Grow

Am ragor o wybodaeth ynghylch y rhaglen cysylltwch os gwelwch yn dda gyda'r tîm AYP

Mae gan Chwarae Cymru lawer o wybodaeth ar eu gwefan i bawb, yn ysgolion, ymarferwyr, rhieni a gwarcheidwaid i gefnogi a datblygu chwarae i bobl ifanc.

Chwilio A i Y