Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Mae gan blant yr hawl sylfaenol i fod yn gallu chwarae; mae'n ganolog i'r ffordd maent yn mwynhau bywyd a gall gyfrannu at eu llesiant. Mae chwarae yn hanfodol ar gyfer twf yn natblygiad gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant.
Mae llawer o dystiolaeth i gefnogi'r gred hon ac mae dealltwriaeth gynyddol o'r cyfraniad mae chwarae yn ei wneud nid yn unig i fywydau plant, ond hefyd i les eu teuluoedd a'r gymuned yn ehangach.
Ers dechrau'r ddyletswydd digonolrwydd chwarae ar awdurdodau lleol o dan Fesur Plant a Theuluoedd (2010), mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a nifer o'n partneriaid wedi cydnabod gwerth a phwysigrwydd chwarae.
Mae'r gwerth mae cyfleoedd i chwarae, gweithgareddau a lleoliadau neu ofodau ar gyfer chwarae yn dod i'n poblogaeth leol a nifer o gymunedau o'r pwys mwyaf. Mae'r uchelgais i sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr yn sir sy'n 'cynnig cyfleoedd i chware' a bod uchelgais o'r fath yn cael ei rhannu gyda nifer o bartneriaid a rhanddeiliaid yn dod yn gynyddol gryfach.
Beth yw Digonolrwydd Chwarae?
Yn 2010 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ei gwneud hi'n ddyletswydd statudol ar bob cyngor yng Nghymru i ymgymryd ag Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (PSA) bob tair blynedd a chynhyrchu cynllun gweithredu blynyddol. Mae'n rhaid iddynt ddangos eu bod wedi cymryd i ystyriaeth ac asesu'r materion fel y'u gosodir gan Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal â sefydlu darpariaeth sylfaenol, bydd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn galluogi'r canlynol:
- Adnabod bylchau mewn gwybodaeth, darpariaeth, darparu gwasanaeth a gweithredu polisi
- Cefnogi sefydlu tystiolaeth sy'n rhoi syniad o'r pellter a deithiwyd mewn perthynas â digonolrwydd chwarae
- Tynnu sylw at ffyrdd posib o fynd i'r afael â materion sy'n berthnasol i weithio mewn partneriaeth
- Mae mewnbwn ac ymwneud yr holl bartneriaid yn cynyddu lefelau gwybodaeth a dealltwriaeth
- System fonitro fydd yn golygu cyfathrebu a gwella cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol
- Adnabod enghreifftiau o arferion da
- Lefelau cynyddol o bartneriaethau yn addasu cyfleoedd chwarae digonol
- Adnabod gweithredoedd ar gyfer y Cynllun Gweithredu Sicrhau Digonolrwydd Chwarae sy'n dod gyda'r Asesiad Digonolrwydd Chwarae.