Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Addysg a Hyfforddiant Ôl-16

Rydym wedi ymrwymo'n llawn i wneud yn siŵr bod gennym y cyfleoedd cywir ar gael i bobl ifanc wrth iddynt symud ymlaen drwy'r ysgol a thu hwnt.

Mae hynna'n golygu bod â'r dewisiadau cywir a'r cyrsiau sy'n addas ar gyfer anghenion pawb, p'un ai ydych chi'n chwilio am gwrs academaidd neu alwedigaethol neu gynllun prentisiaeth neu swydd dan hyfforddiant, bydd rhywbeth ar gael ei chi yn ein cynnig o Ben-y-bont ar Ogwr.

Rydym yn cefnogi'n llawn bolisi Llywodraeth Cymru ar Warant i'r Ifanc sy'n anelu i gael cynigion addas ar gael i bob person ifanc 16 oed fel eu bod yn gallu symud ymlaen gyda'u haddysg a'u dysgu a bod yn barod ar gyfer byd gwaith pan mae'r amser hwnnw'n cyrraedd.

Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, darparwyr hyfforddiant a Gyrfa Cymru er mwyn datblygu'r cynnig hwnnw a rhoi cyhoeddusrwydd iddo drwy'r prosbectws cyffredin hwn.

Chwilio A i Y