Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mannau gwefru cerbydau trydan

Mae mannau gwefru hygyrch oddi ar y stryd i'w cael yn y lleoliadau canlynol:

Lleoliad

Math o wefrwr

Canolfan Hamdden Cwm Garw

  • socedi 3no 7kW

Canolfan Bywyd Cwm Ogwr

  • socedi 2no 22kW
  • socedi 4no 7kW

Pwll Nofio Pencoed

  • socedi 2no 22kW
  • socedi 7no 7kW

Pwll Nofio y Pîl

  • socedi 2no 22kW
  • socedi 7no 7kW

Pwll Nofio Ynysawdre

  • socedi 2no 22kW
  • socedi 7no 7kW

Maes parcio Clwb Bowls Pen-y-bont ar Ogwr

  • socedi 2no 22kW
  • socedi 7no 7kW

Nodwch os gwelwch yn dda: Mae pob lleoliad yn cynnig parcio am ddim ac eithrio maes parcio Clwb Bowls Pen-y-bont ar Ogwr. (Byddwch angen prynu tocyn parcio dilys ac ymadael â'r gilfach parcio unwaith mae eich cerbyd wedi gorffen gwefru yng Nghlwb Bowls Pen-y-bont ar Ogwr).

Er mwyn gweld ble mae eich pwynt gwefru agosaf, ewch draw i'r wefan Zap Map.

Mathau o wefrwyr

Mae'r gwefrwyr yn cael eu cynhyrchu, eu gosod a'u cynnal gan Swarco UK Ltd. Maent yn unedau sydd wedi eu gosod ar y llawr a hefyd yn unedau sydd wedi eu gosod ar wal yn ein hamrywiol leoliadau, ac yn y rhan fwyaf o leoliadau ceir dewis i wefru hyd at un ai:

  • 7kW AC - Gwefru araf
  • 22kW AC (neu 11kW AC os nad yw eich car yn derbyn gwefru 22kW AC) - Gwefru cyflym

Mae gwefrwyr hygyrch i'w cael ym mhob lleoliad ar gyfer defnyddwyr sydd â gofynion penodol.

Sut i'w defnyddio

Mae'r pwyntiau gwefru yn cael eu gweithredu gan Clenergy-ev.

Er mwyn eu defnyddio byddwch angen gofrestru drwy'r ap Clenergy-ev. Mae'r ap yn caniatáu i chi reoli faint rydych yn ei dalu i wefru.

Mae cod QR i'r ap ar bob gwefrwr. 

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth ynghylch gwefrwyr EV yr awdurdod, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

Chwilio A i Y